Llid Y Deintgig: Clefyd dynol

Mae llid y deintgig neu gingivitis yn glefyd anninistriol sy'n digwydd o amgylch y dannedd. Mae'r ffurf fwyaf cyffredin o gingivitis, a'r ffurf fwyaf cyffredin o glefyd amddanheddol ar y cyfan, yn ymateb i bioffilmiau bacterol (a elwir hefyd yn plac) sy'n glynu i arwynebau dannedd, ac yn cael ei alw'n gingivitis a ysgogir gan blac. 

Llid y deintgig
Llid Y Deintgig: Clefyd dynol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathsymptom, gingival disease, periodontitis, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nid yw rhai achosion o gingivitis yn arwain yn periodontitis, ond mae data yn dangos bod periodontitis bob amser yn cael ei ragflaenu gan gingivitis.

Mae modd gwrthdroi gingivitis gyda safon dda o hylendid geneuol, ond, heb ei drin, gall gingivitis arwain at periodontitis, ble mae'r enyniad y deintgig yn achosi i feinwe gael ei ddinistrio ac atsugniad yr asgwrn o amgylch y dannedd. Gall periodontitis arwain yn y pen draw at golli dannedd. Ystyr y term yw "enyniad meinwe'r deintgig".

Arwyddion a symptomau

Mae symptomau llid y deintgig braidd yn amhenodol ac i'w gweld ym meinwe'r deintgig fel arwyddion nodweddiadol o enyniad:

  • Deintgig wedi chwyddo
  • Deintgig porffor neu goch llachar
  • Deintgig sy'n ddolurus neu boenus i'w cyffwrdd
  • Deintgig yn gwaedu neu'n gwaedu ar ôl eu brwsio a/neu drin gydag edau dannedd
  • Anadl ddrwg (halitosis)

Yn ogystal, bydd y dotweithio sydd fel arfer yn bodoli ym meinwe deintgig rhai unigolion fel arfer yn diflannu a bydd y deintgig yn ymddangos yn sgleiniog ac wedi'i or-ymestyn dros y meinwe cysylltiol sy'n llidus. Gall y casgliad hefyd ryddhau arogl amhleserus. Pan mae'r deingig wedi chwyddo, mae'r the leinin epithelaidd yn yf hollt deintgigol yn troi'n friwiog a bydd y deintgig yn gweadu yn haws hyd yn oed gyda brwsio ysgafn, ac yn arbennig pan yn defnyddio edau dannedd.

Ffactorau risg

Mae'r ffactorau risg sy'n cael eu cysylltu a chlefyd y deintgig yn cynnwys y canlynol:

  • oedran
  • osteoporosis
  • defnydd isel o ofal deintyddol (ofn, pwysau ariannol, ayb.)
  • safon isel o hylendid geneuol
  • gor-frwsio'r dannedd neu ddefnyddio brws sy'n rhy galed
  • anadlu trwy'r geg pan yn cysgu
  • meddyginiaethau sy'n sychu'r geg
  • ysmygu
  • ffactorau genetig
  • cyflyrau sy'n bodoli eisoes

Gweler hefyd

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

1946CamelDannii MinogueCyfrifiadurYr AmerigTrio MandiliMynyddLewis CarrollPower TripParamount PicturesTony ac AlomaUndeb credydShadow CompanyJohn DemjanjukAnimal KingdomGwilym Bowen RhysTwnnel Rheilffordd GotthardBora BoraCamriMarie CazinDameg y Mab AfradlonStygianCeniaOwain WilliamsSerena WilliamsBaner y Deyrnas UnedigAlbert EinsteinDyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, PenmorfaDewi 'Pws' MorrisAmbushYmddeoliadY Blaid GeidwadolGwyn ap NuddCheyenne AutumnHaulHarry Potter and the Deathly Hallows – Part 2Gina GersonBarcud cochIsraelYasser ArafatGoogle ChromeEdward I, brenin LloegrCymanfa ganuDrigg98 DegreesBDSMOwain Wyn EvansParaíbaCymruGruffydd WynCyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb IslamaiddHanes AlbaniaAderyn haul melynwyrddJapanEtholiad Senedd Ewrop, 2019Air Raid WardensCanyon AmbushPingedLa Gueule De L'autreY Blaid Geidwadol (DU)MamalPeredur ap GwyneddMachludJames CoburnRaisa GorbachevaLloegrJulia GillardApollo 13Eagle EyeMaidaanPensiwn🡆 More