Yr arfer o ymosod ar longau gwledydd eraill a'u hysbeilio a hynny gydag awdurdod llywodraethol yw herwlongwriaeth neu breifatirio.
Rhoddir yr enw preifatîr (o'r Saesneg privateer) neu herwlong ar long a ddefnyddir at y diben hwn, a gelwir capten y fath long hefyd yn breifatîr neu'n herwlongwr. Mae herwlongwriaeth yn wahanol i fôr-ladrad, sef ysbeilio heb ganiatâd unrhyw lywodraeth.
Enghraifft o'r canlynol | galwedigaeth, galwedigaeth forwrol, ambiguous Wikidata item |
---|---|
Math | gwron, morwr, milwyr afreolaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod Oes Elisabeth, derbyniodd sawl morwr Seisnig nawddogaeth gudd oddi wrth y Frenhines Elisabeth I i ysbeilio llongau trysor Sbaen ym Môr y Caribî. Ymosodwyd ar lynges Sbaen ym Mae Cádiz gan Syr Francis Drake yn 1587, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen". Yn y 1590au ymosodwyd ar drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen yn y Caribî gan Christopher Newport. a lwyddodd hefyd i gipio sawl llong oddi ar y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Herwlongwriaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.