Devanāgarī (Sansgrit : देवनागरी) yw'r wyddor a ddefnyddir i ysgrifennu Sansgrit, Hindi, Nepaleg, Marathi a sawl iaith Indiaidd arall.
Mae'n un o brif wyddorau India a Nepal.
Enghraifft o'r canlynol | abugida, unicase alphabet, sgript naturiol |
---|---|
Math | Brahmic scripts |
Gwlad | India |
Iaith | Prakrit, Awadhi, Bhili, Bhojpuri, Bodo, Braj Bhasha, Chhattisgarhi, Dogri, Gwjarati, Haryanvi, Hindi, Hindwstaneg, Kashmireg, Konkaneg, Magahi, Maithili, Marathi, Marwari, Mundari, Newar, Nepaleg, Pali, Pwnjabeg, Rajasthani, Nagpuri, Sansgrit, Santali, Saraiki, Sherpa, Sindhi, Surjapuri, Angika, Hindi Ffiji, Gondi, Kurukh, Sourashtra |
Dechrau/Sefydlu | 11 g |
Yn cynnwys | Devanagari letter |
Enw brodorol | देवनागरी |
Rhanbarth | India, Nepal, Ffiji |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel yn achos y mwyafrif o'r ieithoedd Indiaidd, mae'r devanāgarī yn tarddu o'r wyddor Brahmi. Wrth gynrychioli devanagari mewn llythrennau Rhufeinig defnyddir trawslythreniad IAST (sef Gupta).
Gellir olrhain datblygiad y devanagari i o gwmpas y 12g, yn ôl pob tebyg fel addasiad o'r wyddor Siddham. Yn raddol, disodlodd devanagari yr wyddor Sharda mewn rhan helaeth o ogledd isgyfandir India.
Erbyn heddiw, y devanāgarī yw un o'r gwyddorau mwyaf cyffredin yn India, yn arbennig gan ei bod yn cael ei defnyddio i ysgrifennu Hindi, iaith fwyaf India o bell ffordd, prif iaith swyddogol India. Yn yr un modd ysgrifennir Nepaleg, iaith swyddogol Nepal, mewn devangari. Mae ieithoedd mawr eraill sy'n ei defnyddio yn cynnwys Marathi a Sindhi. Yn ogystal fe'i denfyddir yn draddodiadol i ysgrifennu Sansgrit.
Ymhlith yr ieithoedd llai sy'n denfyddio devanagari ceir : Bihari, Bhili, Konkani, Bhojpuri, a Nepalbhasa. Weithiau mae Cashmireg yn defnyddio'r wyddor hefyd, er mai amrywiad ar y wyddor Arabeg a ddefnyddir fel rheol.
Mae'r gair devanāgarī, sy'n tarddu o'r iaith Sansgrit, yn gyfansoddedig o :
Ystyr y gair devanagari felly yw (ysgrifen) 'y ddinas dwyfol'; neu, yn llai llythrennol 'ysgrifen dinas y duwiau'. Weithiau talfyrir yr enw yn nāgarī.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Devanāgarī, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.