Mae Isgyfandir India yn rhan sylweddol o gyfandir Asia sy'n cynnwys y gwledydd sy'n gorwedd, fwy neu lai, ar blât tectonig India i'r de o gadwyn yr Himalaya.
Mae'r gwledydd hyn yn cynnwys Bangladesh, Pacistan, Bhwtan, India, Nepal a rhannau o ddwyrain Affganistan ar y tir mawr ac ynysoedd Sri Lanca a'r Maldives (yn achos yr olaf am eu bod yn gorwedd ar yr un haen o gromen y ddaear dan y môr). Yn ogystal â bod yn rhanbarth ddaearyddol, mae'r isgyfandir yn rhanbarth ddiwyllianol sy'n rhannu elfennau pwysig o hanes a diwylliant mewn cyffredin.
Math | isgyfandir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 4,480,000 km² |
Cyfesurynnau | 22.20775°N 76.97021°E |
Cyfeirir at yr isgyfandir fel De Asia hefyd, ond mae hyn yn derm diweddar a llai ddiffiniedig sy'n gallu cyfeirio at wledydd eraill yn ne Asia yn ogystal â gwledydd yr isgyfandir ei hun ac felly'n cael ei ystyried yn derm daearwleidyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Isgyfandir India, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.