Mae parasetamol, a elwir hefyd yn acetaminophen neu APAP, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen a thwymyn.
Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₈H₉NO₂. Fe'i defnyddir fel arfer ar gyfer rhyddhad rhag poen ysgafn i gymedrol. Mae'r dystiolaeth am ei werth i leddfu twymyn mewn plant yn ansicr. Fe'i gwerthir yn aml mewn cyfuniad â chynhwysion eraill, megis mewn llawer o feddyginiaethau ar gyfer annwyd. Defnyddir parasetamol mewn cyfuniad â meddyginiaeth opioid hefyd, ar gyfer poen mwy difrifol fel poen canser a phoen ar ôl llawdriniaeth. Fe'i defnyddir fel arfer trwy ei lyncu ond mae hefyd ar gael mewn ffurf i'w gweini trwy'r rectwm neu yn fewnwythiennol. Mae effeithiau'n para rhwng dwy a phedair awr.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | acetamides, aromatic amide, phenols |
Màs | 151.063 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₈h₉no₂ |
Enw WHO | Paracetamol |
Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, tueddiad at ddioddef o ffliw difrifol, nasopharyngitis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | response to paracetamol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae parasetamol yn ddiogel, fel arfer o ddefnyddio'r dosau a argymhellir. Weithiau y bydd brechau croen difrifol yn digwydd fel sgil effaith cymryd parasetamol a gall dos rhy uchel arwain at fethiant yr afu. Ymddengys ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron. Gall cleifion sy'n byw efo chlefyd yr afu ei ddefnyddio ond mewn dosau is. Mae parasetamol wedi'i ddosbarthu fel poenliniarydd ysgafn.. Nid oes ganddo weithgaredd gwrthlidiol sylweddol. Nid yw'n hollol glir a sut mae'r cyffur yn gweithio.
Darganfuwyd parasetamol ym 1877. Dyma'r feddyginiaeth fwyaf cyffredin ar gyfer poen a thwymyn yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. . Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef restr o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae parasetamol ar gael fel meddyginiaeth generig ac o dan enwau masnachol megis Anadin, Tylenol a Panadol ymhlith eraill .
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Parasetamol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.