Daw'r gair rectwm o'r gair Lladin rectum intestinum (coluddyn syth), a dyma'r rhan olaf o'r coluddion mewn llawer o anifeiliaid sy'n gorffen yn yr anws.
Mae'n rhan, felly, o'r system dreulio. Mewn dyn mae oddeutu 12 cm o ran hyd.
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Storfa ysgarthion ydyw; storfa dros dro. Mae waliau'r rectwm yn ymledu wrth i'r defnydd lenwi'r rhan yma, gan ymestyn synhwyrwyr nerfol sydd wedi'u lleoli yn waliau'r rectwm ac yn anfon neges i'r ymennydd ei bod hi'n amser i ysgarthu. Os nad ydy'r weithred hon yn digwydd, mae'r ysgarthion yn mynd yn ei ôl i'r colon ble mae rhagor o ddŵr yn cael ei amsugno ohono. Os gwneir hyn (hy dal yn ôl rhag cachu) am gyfnod hir, mae'r ysgarthion yn eithaf caled.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rectwm, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.