Y stâd o fethu ysgarthu ydy rhwymedd (Saesneg: constipation).
Mae hyn yn digwydd o fewn y system dreulio, yn benodol yn y coluddyn bach. Gall gor-wthio greu problemau megis clwy'r marchogion. Mae hyn yn digwydd, fel arfer gan fod y colon wedi amsugno gormod o ddŵr, gan adael yr ysgarthion (neu 'gachu' ar lafar) yn sych ac yn galed. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan fo'r bwyd yn teithio yn rhy araf.
Y broblem waelodol, fel arfer, yw naill ai afiechyd neu ddiet gwael.
Yr aeteb arferol yw i'r claf yfed mwy o ddŵr a ffeibr o lysiau, ffrwythau ffres neu fara cyflawn. Mae ffa pob, hadau llin neu byls hefyd yn dda. Defnyddir yr 'enema' mewn meddygaeth; fodd bynnag mae'r rhain yn fwyaf effeithiol pan fo'r ysgarthion yn y rectwm ac nid yn y coluddyn bach.
Dywedir fod pupur du neu sudd ffrwythau'n dda i wella rhwymedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhwymedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.