Mewn anatomeg ddynol, ceudod a'r rhan gyntaf o'r llwybr ymborth sy'n amlyncu bwyd ac yn cynhyrchu poer yw'r geg (hefyd genau).
Y mwcosa geneuol yw'r bilen fwcaidd epitheliwm sy'n leinio tu mewn i'r geg.
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb o rywogaeth arbennig, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | ceg |
Rhan o | pen dynol, wyneb dynol |
Yn cynnwys | ceudod y geg ddynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ogystal â'i rôl sylfaenol fel man cychwyn y system dreulio mewn dynion, mae'r geg hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cyfathrebu. Er bod agweddau sylfaenol y llais yn cael eu cynhyrchu yn y gwddf, mae angen i'r tafod, y gwefusau a'r safnau hefyd i gynhyrchu ystod seiniau'r llais dynol
Mae'r geg yn cynnwys dau ranbarth, y cyntedd a cheudod y geg. Mae'r geg, fel arfer, yn llaith wedi'i leinio â philen fwcaidd, ac mae'n cynnwys y dannedd. Mae'r gwefusau yn nodi'r trawsnewidiad o bilen fwcaidd i'r croen sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r corff. Mae ei do yn cael ei ffurfio gan daflod galed ar y blaen, a thaflod feddal yn y cefn. Mae'r tafod bach (wfwla) yn mynd i lawr o ganol y daflod feddal ger ei gefn. Mae'r llawr yn cael ei ffurfio gan y cyhyrau mylohyoid sy'n cael ei feddiannu yn bennaf gan y tafod. Mae pilen fwcaidd - y mwcosa geneuol, yn leinio ochr a phen isa’r dafod hyd y deintgig, gan linio wynebwedd fewnol y genogl (mandibl). Mae'n derbyn y chwarenlifau oddi wrth y chwarennau poer isfandiblaidd a'r rhai isdafodol.
Pan fyddo ar gau, mae cyntedd y geg yn ffurfio llinell rhwng y wefus uchaf a'r wefus isaf. Mewn mynegiant wyneb mae llinell y geg yn creu siâp eiconig fel parabola ar ei fynnu mewn gwên, ac fel parabola ar ei lawr mewn gwg. Gwen a gwg yw'r ddau fath o gyfathrebu di-eiriau pwysicaf yn y mynegiant dynol.
Mae'r geg yn chwarae rhan bwysig wrth fwyta, yfed, anadlu a siarad. Mae babanod yn cael eu geni gydag adwaith sugno, trwy'r hyn y maent yn gwybod yn reddfol i sugno am faeth gan ddefnyddio eu gwefusau a'u safnau. Mae'r geg hefyd yn helpu cnoi a mwydo bwyd. Trwy gusanu, llyfu a rhyw geneuol mae'r geg hefyd yn chware rhan yn y weithred rywiol ddynol.
Gall ceg dynion ddal, ar gyfartaledd, 71.2 ml, tra bod ceg fenywaidd yn dal 55.4 ml
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceg ddynol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.