Dinas drydedd fwyaf Moroco yw Fès neu Fez (Arabeg: فاس , Ffrangeg: Fès), ar ôl Casablanca a Rabat, gyda phoblogaeth o 946,815 (cyfrifiad 2004).
Mae'n ddinas hanesyddol sydd â lle pwysig yn hanes a diwylliant Moroco ac mae'n brifddinas rhanbarth Fès-Boulemane.
Math | endid tiriogaethol gweinyddol, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 1,112,072 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Idriss Azami Al Idrissi |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Fflorens, Montpellier |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Imperial cities of Morocco |
Sir | Fez Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 320 ±1 km² |
Uwch y môr | 410 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 34.0433°N 5.0033°W |
Cod post | 30000–30206 |
MA-FES | |
Pennaeth y Llywodraeth | Idriss Azami Al Idrissi |
Sefydlwydwyd gan | Idrisid dynasty |
Gorwedd y ddinas ar lannau afon Fès wrth droedfryniau gogleddol mynyddoedd Atlas Canol, tua 100 milltir o'r Môr Canoldir i'r gogledd a'r Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin fel ei gilydd.
Mae Fès yn un o'r pedair "dinas ymerodrol" hanesyddol (gyda Marrakech, Meknes a Rabat). Mae'n ymrannu yn dair rhan, sef Fès el Bali (yr hen ddinas gaerog), Fès-Jdid (Fès newydd, cartref y Mellah), a'r Ville Nouvelle (y rhan fwyaf diweddar, a sefydlwyd yng nghyfnod rheolaeth Ffrainc). Honnir mai Medina Fès el Bali, y mwyaf o ddau medina Fes, yw'r ardal ddinesig ddi-fodur fwyaf yn y byd. Rhestrir Fès el Bali yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn Fès ceir Prifysgol Al-Karaouine, a sefydlwyd yn y flwyddyn 859 OC; dyma'r brifysgol hynaf yn y byd sy'n dal yn agored heddiw.
Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Saïss. Mae ganddi orsaf trenau ONCF sy'n ei chysylltu gyda Oujda i'r dwyrain a Tanger a Casablanca i'r gorllewin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Fès, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.