Dinas yng ngogledd-ddwyrain Moroco yw Oujda (Arabeg: وجدة).
Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco ac Algeria a rhyw 60 km i'r de o lan y Môr Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarth L'Oriental.
Delwedd:Oujdacol.jpg, FARAJI Brahim - LA GRANDE MOSQUEE DU MEDINA OUJDA - Septembre2015.jpg | |
Math | dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 614,000 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oujda-Angad Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 96.4 km² |
Uwch y môr | 470 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 34.6867°N 1.9114°W |
Cod post | 60000 |
MA-OUJ | |
Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda â Fes a Casablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws y Maghreb yn cysylltu Moroco, Algeria a Tiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw.
Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaith Mauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y Zenata Berber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu gan Ffrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco.
Ganed Abdelaziz Bouteflika, arlywydd Algeria, yn Oujda.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Oujda, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.