Dinas ym Moroco yw Marrakech neu Marrakesh (Amazigh: Murakush, Arabeg: مراكش Murrākush).
Mae'n cael ei hadnabod fel y "Ddinas Goch" ac mae'n un o bedair dinas ymherodrol Moroco, gyda Rabat, Meknès a Fes. Mae ganddi boblogaeth o 1,070,838 (2004), ac mae'n brifddinas talaith Marrakech-Tensift-El Haouz, ger troedfryniau Mynyddoedd yr Atlas yn ne canolbarth Moroco.
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 966,987 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Fatima Ezzahra El Mansouri |
Cylchfa amser | Western European Time, UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Sousse, Granada, Marseille, Clermont-Ferrand, Tombouctou, Tashkent, Ajaccio, Tours, Dinas Efrog Newydd, Mecca, Paris, Madrid, Odesa, Sidi Bennour, Granby |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Imperial cities of Morocco |
Sir | Marrakesh Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 230 km² |
Uwch y môr | 468 metr |
Cyfesurynnau | 31.62947°N 7.98108°W |
Cod post | 40000 |
MA-MAR | |
Pennaeth y Llywodraeth | Fatima Ezzahra El Mansouri |
Sefydlwydwyd gan | Abu Bakr ibn Umar |
Fel nifer o ddinasoedd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, mae Marrakech yn cynnwys hen ddinas gaerog (y medina) a dinas fodern gerllaw (sef y Gueliz neu ville nouvelle). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Rhyngwladol Ménara (RAK) a rheilffordd sy'n ei chysylltu â Casablanca a'r gogledd. Marrakech yw'r dryddedd ddinas ym Moroco o ran poblogaeth ar ôl Casablanca a Rabat.
Mae Marrakech yn ddinas hanesyddol a ystyrir yn llawer mwy "Affricanaidd" na'r dinasoedd mawr eraill ac a nodweddir gan ei diwylliant Berber. Cafodd ei sefydlu yn 1062 gan y swltan Almoravid Yusuf ibn Tashfin. Tyfodd i fod yn brifddinas economaidd a diwylliannol de Moroco ac am gyfnod yn yr Oesoedd Canol bu'n brifddinas y wlad gyfan hefyd.
Ceir y souq (marchnad awyr agored) mwyaf yn y wlad yma ac mae'r ddinas yn enwog hefyd am y Djemaa el Fna, sgwâr mawr agored sy'n fwrlwm o acrobatiaid, diddanwyr, chwedleuwyr a cherddorion o fore tan nos pryd mae'n troi'n fath o fwyty fawr agored gyda nifer o stondinau bwyd.
Mae medina Marrakech yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Ceir sawl parc a gardd yn y ddinas, yn cynnwys Gardd Majorelle a Gerddi Menara.
Marrakech yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Marrakech-Tensift-El Haouz. Rheolir Marrakech gan Gyngor Dinas o 80 o gynrychiolwyr etholedig. Yn haf 2009, enillodd dinas Marrakech le yn hanes merched Moroco pan etholodd cyfarfod llawn o'r cyngor Mme Fatima Zohra El Mansouri yn faer: dyma'r tro cyntaf i ferch ddod yn faer yn hanes Moroco gyfan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Marrakech, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.