Ar 6 Chwefror 2023, tarodd daeargryn gydag nifer o ôl-gryniadau yn ne a chanolbarth Twrci a gogledd a gorllewin Syria.
Digwyddodd 34 km (21 milltir) i'r gorllewin o ddinas Gaziantep am 04:17 AM TRT (01:17 UTC), gyda dwyster Mercalli uchaf o XI (Eithafol), a maint o leiaf Mw 7.8. Tarodd ail ddaeargryn Mw 7.7 naw awr yn ddiweddarach wedi ei leoli tua 95 km (59 milltir) i'r gogledd/gogledd-ddwyrain yn nhalaith Kahramanmaraş. Bu difrod eang a degau o filoedd o farwolaethau.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o ddaeargrynfeydd |
---|---|
Dyddiad | 6 Chwefror 2023 |
Lladdwyd | 50,132 |
Achos | Ffawtlin y môr marw |
Lleoliad | Gaziantep, Kahramanmaraş |
Gwladwriaeth | Twrci, Syria |
Rhanbarth | Gaziantep, Kahramanmaraş |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y daeargryn cyntaf oedd y mwyaf marwol a chryfaf yn Nhwrci ers daeargryn Erzincan 1939, a'r ail gryfaf ar ôl daeargryn Gogledd Anatolia 1668. Hwn hefyd oedd daeargryn mwyaf marwol yn Syria fodern, y mwyaf marwol ers daeargryn Aleppo 1822, un o'r daeargrynfeydd cryfaf a gofnodwyd erioed yn y Levant a'r daeargryn mwyaf marwol ledled y byd ers daeargryn Haiti yn 2010. Fe'i teimlwyd ac fe achosodd ddifrod strwythurol cyn belled ag Israel, Libanus, Cyprus, ac arfordir Môr Du Twrci.
Cafwyd dros 2,110 o ôl-gryniadau wedi'r ddau prif ddaeargryn. Ar 28 Chwefror, roedd dros 50,000 o farwolaethau wedi'u cofnodi; gyda ffigyrau o 44,000 yn Nhwrci a tua 6,000 yn Syria. Roedd storm fawr aeafol yn amharu ar ymdrechion achub, gan eira yn disgyn ar yr adfeilion a'r tymheredd yn plymio. Oherwydd y tymheredd rhewllyd yn yr ardaloedd, roedd perygl mawr o hypothermia i'r rhai oedd wedi goroesi, yn enwedig y rhai sydd wedi'u dal dan falurion.
Cafwyd ail gryniad yn y rhanbarth ar 21 Chwefror gyda cryniadau 6.4 a 5.8 yn nhalaith Hatay. Bu farw o leiaf 3 person ac anafwyd 213 yn yr adroddiadau cyntaf.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am ddarparu £300,000 o gymorth ariannol i roi cymorth brys a chyflym i bobl yr effeithiwyd arnynt gan y daeargryn. Cododd Apêl Cymru £2.5m o fewn 6 diwrnod hyd at 17 Chwefror.
Cafwyd apêl gan DEC ar 9 Chwefror a codwyd £1.2 miliwn ar y diwrnod cyntaf, yn cynnwys cyfraniad y Llywodraeth. Mae'r elusennau sy'n gweithio ar godi arian yn cynnwys Y Groes Goch Brydeinig, CAFOD, Cymorth Cristnogol, Oxfam Cymru, Achub y Plant a Tearfund.
Aeth 5 diffoddwr tân o Gymru allan i Dwrci fel aelodau o dîm o 77 arbennigwyr gyda chorff Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UKISAR).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daeargryn Twrci–Syria 2023, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.