Gallu dyn i feddwl mewn ffordd arbennig ydy rhesymeg; troi tybiaethau a damcaniaethau'n gasliad neu'n benderfyniad.
Mewn geiriau eraill, dyma'r drefn mae pobl rhesymol yn cynnig rhesymau neu eglurhad dros "achos ac effaith".
Defnyddir y gair "rheswm" hefyd yn fwy llac, fel gair sy'n cyfiawnhau rhywbeth sydd wedi'i ddweud neu ei wneud, e.e. "Dyna'r rheswm pam nad af yno."
Mae rhesymu'n unigryw i'r natur ddynol ac yn un o ddiffiniadau'r bod dynol. Bellach, cysylltir y gair gyda'r arferiad o ddod i'r penderfyniad cywir gan gyrff sydd mewn awdurdod a sefydliadau addysg. Oherwydd hyn, mae llawer o gyrff eraill yn ceisio hawlio eu defnydd o reswm er mwyn gwella eu delwedd neu fod yn rhan dderbyniol o gymdeithas e.e. cyrff sy'n ymwneud g emosiwn, Yr Ocwlt a ffydd. Gellir edrych ar y tair disgyblaeth hyn fel gwrthwyneb i reswm.
Yr hyn sy'n gwneud rhesymeg yn wahanol i weddill ffurfiau o ymwybyddiaeth yw'r dull gwyddonol bron o fedru cyfiawnhau'r modd mae person wedi dod i gasgliad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhesymeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.