Gwyndodeg

Gwyndodeg yw tafodiaith Gymraeg gogledd-orllewin Cymru.

Fe'i gelwir yn Wyndodeg am fod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i diriogaeth yr Wynedd hanesyddol. Daw'r gair o'r enw Gwyndyd ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd'), hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) Uenedoti (sail y gair Lladin Canol Venedotia, Gwynedd).

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd Môn, Gwynedd, a gorllewin Conwy. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n Bowyseg yn ardal Clwyd. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am Wyndodeg Môn, Gwyndodeg Arfon, Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd, a Gwyndodeg Meirionnydd. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen gantrefi a chymydau: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn.

Nodweddion Seinegol

Ffonem / llythyren Disgrifiad Enghraifft
u Mewn sillaf dan bwyslais, ceir llafariad anghrwn ganolog gaeedig [ɨ] Sul [sɨːl]
dau [daːɨ]
huno ['hɨno]
Frwydrolion "caled" c, t, p Ceir anadliad caled ym mhob safle creu [kʰreːɨ]
atgas ['atʰgas]
hap [hapʰ]
Ffrwydrolyn "meddal" g Ychydig iawn o leisio a geir. gogledd [g̥og̥ɫeð]
Ffrwydrolyn "meddal" d Gall fod yn ddeintiol-gorfannol. Ychydig iawn o leisio. dydd [d̪ɨːð]
adran ['ad̥ran]
rhad [rʰaːd̥]
l Ynganiad felar [ɫ] ym mhob safle lon [ɫoːn], cloi [kɫoːi]
hela ['heɫa]
ôl [oːɫ], sgil [skiːɫ]
e diacen yn y sillaf olaf [a] halen ['haɫan], cyllell ['kʰəɬaɬ]
-au diacen ar ddiwedd gair [a] wrth llefaru'n gyflym pethau ['pʰeθa], geiriau ['g̥eirja]
ond dau [d̥au]
-nn- dyblyg Ceir n dyblyg sy'n sylweddol hwy nac n sengl hanner ['hanːar]

Dosbarthiad Daearyddol

Mae'r ffin ieithyddol hyn yn rhedeg o gyffiniau Bae Colwyn yn y gogledd i Aberdyfi yn y de ac yn gyfateb yn fras i'r hen Sir Wynedd, ac eithrio Penllyn yn y dwyrain a de-ddwyrain Sir Feirionnydd.

Astudiaethau

Un o'r cyfraniadau pwysicaf i astudiaethau ar y Wyndodeg yw cyfrol arbennig yr ieithgi Osbert Henry Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District, sy'n cyflwyno geirfa helaeth a gasglwyd o lafar gwlad yn bennaf yn yr ardal o gwmpas Bangor, Gwynedd. Er ei fod yn astudiaeth o dafodiaith gogledd-ddwyrain yr hen Sir Gaernarfon mae nifer o elfennau yn y dafodiaith honno i'w gweld yng ngweddill tiriogaeth y Wyndodeg hefyd.

Llên

Dros y blynyddoedd mae nifer o lyfrau wedi ymddangos sydd naill ai wedi'u sgwennu yn y dafodiaith neu'n cynnwys deialog ynddi. Gellid crybwyll gwaith cynnar Kate Roberts (e.e. Traed Mewn Cyffion a Te yn y Grug), Un Nos Ola Leuad Caradog Prichard, nofelau Angharad Tomos a dramâu Wil Sam (e.e. Toblerôn).

Rhai geiriau ac ymadroddion

  • cur yn y pen - pen tost (gwayw yn y pen yw'r ymadrodd mewn rhannau o Lŷn).
  • lobsgows - cawl, math o stiw o gig, tatws a llysiau (gair benthyg o'r Saesneg dafodieithol labscouse gan bobl Lerpwl; tarddiad y gair Scouser yn Saesneg); hefyd 'llanast' fel trosiad.
  • stomp - llanast, blerwch
  • mae gyna fo gnonyn yn ei din! - am rywun sydd ddim yn medru cadw'n llonydd (cnonyn, 'cynrhonyn')

Llyfryddiaeth

  • O.H. Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (Rhydychen, 1913)
  • Bedwyr Lewis Jones, Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1987)
  • Henry Sweet, "Spoken North Welsh", yn Transactions of the Philological Society, 1882-4 (Rhan III), tt. 409-484
  • Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Caerdydd, 1973)
  • J.E. Caerwyn Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)

Gweler hefyd

  • Cymraeg y Gogledd
  • Tafodiaith Môn
  • Tafodiaith Arfon
  • Tafodiaith Llŷn ac Eifionydd
  • Tafodiaith Meirionnydd

Tags:

Gwyndodeg Nodweddion SeinegolGwyndodeg Dosbarthiad DaearyddolGwyndodeg AstudiaethauGwyndodeg LlênGwyndodeg Rhai geiriau ac ymadroddionGwyndodeg LlyfryddiaethGwyndodeg Gweler hefydGwyndodegBrythonegCymruTafodieithoedd y GymraegTeyrnas Gwynedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Christina o LorraineMachu PicchuFrontier County, NebraskaLawrence County, ArkansasWenatchee, WashingtonMikhail GorbachevWcráinFontanarrosa, Lo Que Se Dice Un ÍdoloDavid CameronBIBSYSBig BoobsWarsawAnna Brownell Jameson1403John BetjemanTebotCrawford County, OhioYr AlmaenMaes Awyr KeflavíkLucas County, IowaDinas MecsicoComiwnyddiaethSex TapeIeithoedd CeltaiddThe Salton SeaSophie Gengembre AndersonRoxbury Township, New Jersey2022Ray AlanJackie MasonCneuen gocoJohn BallingerWarren County, OhioBurt County, NebraskaPeiriannegMiami County, OhioWest Fairlee, VermontPlanhigyn blodeuolAnsbachMoving to MarsVeva TončićCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol (Yr Unol Daleithiau)Teaneck, New JerseySaline County, ArkansasLincoln County, NebraskaTwrciAfon PripyatHempstead County, ArkansasOttawa County, OhioKearney County, NebraskaGorsaf reilffordd Victoria ManceinionHTMLBrasilSisters of AnarchyPaulding County, OhioWashington (talaith)1195Lumberport, Gorllewin VirginiaUndduwiaethAneirinRowan AtkinsonMadonna (adlonwraig)Van Buren County, ArkansasStark County, OhioY Sgism OrllewinolPRS for MusicY FfindirSylvia AndersonFfesantPenfras yr Ynys LasJosé CarrerasLady Anne BarnardWilliam S. BurroughsMab DaroganHumphrey LlwydMike PompeoGeni'r IesuFrank Sinatra🡆 More