Cymraeg y Gogledd yw'r Gymraeg a sieredir yn y rhan fwyaf o Ogledd Cymru a rhannau gogleddol Canolbarth Cymru.
Nid yw'n dafodiaith ynddi'i hun ond yn hytrach grŵp o dafodieithoedd sydd gyda'i gilydd yn ffurffio un o ddwy gangen dafodieithol y Gymraeg (Cymraeg y de yw'r llall).
Cymraeg | ||||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||||
Rhennir Cymraeg y Gogledd yn ddwy brif dafodiaith, sef Gwyndodeg a Phowyseg. Mae gan y ddwy dafodiaith hyn eu hymraniadau hwythau yn ogystal. Sylwer hefyd mai dosbarthiad cyffredinol yw hyn. Mewn rhai pethau mae'r Bowyseg a'r Ddyfedeg yn fwy agos i'w gilydd nag y maen nhw i'r Wyndodeg ar y naill law a'r Wenhwyseg ar y llall; yn wir mai'r Wyndodeg a'r Wenhwyseg yn rhannu sawl nodwedd â'i gilydd, e.e. petha am y gair 'pethau' (ond pethe yn y Bowyseg a'r Ddyfedeg).
Efallai y nodwedd amlycaf yw'r ffurfiau ar eiriau cyffredin sy'n arbennig i'r gogledd. Y pwysicaf yw'r defnydd o'r o a fo am y rhagenwau e a fe yn y de. Mae teitl y rhaglen gomedi adnabyddus Fo a Fe gan Ryan a Ronnie yn adlewyrchu'r rhaniad ieithyddol sylfaenol hyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymraeg y gogledd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.