Yr iaith Gymraeg fel y mae'n cael ei siarad yn hytrach na'i hysgrifennu yw Cymraeg llafar.
Mae'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg a morffoleg. Ceir o'i mewn sawl cywair ieithyddol tra wahanol, a sawl tafodieithoedd.
Cymraeg | ||||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||||
Mae gan y Gymraeg amrywiaeth gyfoethog o gyweiriau ieithyddol, o iaith hynod ffurfiol (boed yn dechnegol neu'n llenyddol) i fratiaith, gan gwmpasu ystod eang o gyweiriau lled-ffurfiol ac anffurfiol. Mae'r cyweiriau i gyd yn amrywio yn ôl tafodiaith, ond y cyweiriau llai ffurfiol sy'n tueddu amrywio mwyaf.
Mae peth gwahaniaeth rhwng Cymraeg y gogledd a Chymraeg y de. Mae tuedd i or-ddweud hyn. Mewn gwirionedd, nid yw'n ddim mwy na'r gwahaniaeth a glywir yn y Saesneg mewn ardaloedd gwahanol o Loegr. Er hynny, mae'n sbort gan y Cymry gael hwyl am ben eu hacenion gwahanol; yr 'hwntws' a'r 'gogs' fel y gelwid hwy gan ei gilydd.
Ychydig enghreifftiau:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cymraeg llafar, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.