Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agwedd ac arferion gwrandawyr a gwylwyr. Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus. Mae'r wasg Gymraeg a darlledu yn Gymraeg ar y radio wedi hen sefydlu yng Nghymru, a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd wedi tyfu yn y 2000au. Mae teledu Cymraeg yn cael ei ddominyddu gan S4C, yr unig sianel Gymraeg.
Yn ôl ymchwil diweddar, postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar y 15fed Awst, 1989. Ar y 13eg o Dachwedd, 1992 agorwyd y rhestr ebost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board. Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer o faesydd ar rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y cyfryngau Cymraeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses. ®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.