Mae'r erthygl hon yn sôn am ddatblygiad a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd, ac yn hwyrach y we fyd-eang.
Cymraeg | ||||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||||
Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd Owain Owain yn Y Cymro: Yn syml, mae'r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi'n bosibl cofnodi'r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno...
Yn ôl ymchwil diweddar, postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar y 15fed Awst, 1989. Ar y 13eg o Dachwedd, 1992 agorwyd y rhestr ebost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board. Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer o faesydd ar rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
Bu Gwasg y Lolfa, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn flaenllaw yn y dyddiau cynnar
Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio ei le ar y we hefyd. Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y Prifardd Robin Llwyd ab Owain ar y we fyd eang dan yr enw Rebel ar y We; dyma oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg ar y rhyngrwyd.
O ran y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg, mae dros 607 o flogiau Cymraeg wedi eu cofnodi gan Hedyn.net erbyn Mawrth 2014, a thua 14,000 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter hefyd ym Mawrth 2014. Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook ond adnabu ymchwil yn 2008 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.
Yn sgil goblygiadau Deddf Iaith 1993 mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y rhyngrwyd Gymraeg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.