Wenglish

Mae Wenglish fel arfer yn cyfeirio at y tafodieithoedd o Saesneg a siaredir yn ne Cymru.

Mae dylanwad gramadeg a geirfa'r iaith Gymraeg yn drwm arni, ac mae'n cynnwys nifer o eiriau unigryw.

Mae John Edwards wedi ysgrifennu'n ddifyr iawn am Saesneg y Cymoedd. Mae rhai pobl, yn enwedig pobl y tu allan i Gymru, yn defnyddio Wenglish i gyfeirio at bob ffurf ar Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Ynganiad a Nodweddion

Dyma rai o nodweddion Wenglish sy'n ei gwneud yn wahanol i Saesneg 'safonol':

  • Gwahaniaethau mawr o ran traw sy'n rhoi'r effaith "canu".
  • Gwneud llafariaid yn hir, yn enwedig yn acenion Cymoedd y De e.e Vaaalleys.
  • Gwahaniaethu wrth ynganu rhwng y parau canlynol rude a rood, threw a through, chews a choose, chute a shoot.
  • Seinio year, here a ear yr un peth.
  • Ynganu -ng ar ddiwedd berfau yn -in e.e. Singin I was.
  • Colli 'h-' ddechreuol e.e. 'E's 'ell uv a good shaag, mind!
  • Defnydd mynych o eiriau llanw fel like.

Dylanwad y Gymraeg

  • Tueddiad i rolio 'r'.
  • Geirfa, fel cwtsh, didoreth, as diflas as pechod!
  • Blaenu i ddangos pwyslais fel It's Brains you want, Jokin' I was, mun, Bad in bed under the doctor I was.
  • Cyfieithu ymadroddion o'r Gymraeg e.e. There's lovely it is (< Dyna hyfryd yw e) a keep the dishes (< cadw'r llestri), lose the bus (< colli'r bws), rise a ticket (< codi tocyn).
  • Defnydd o is it? ar ddiwedd brawddeg e.e. Goin' shoppin', is it? (< Mynd i siopa, ife?)

Dylanwad y Saesneg

  • Mae'n debyg bod yr ymadrodd where to? e.e. Where's 'e to?, neu Where to's tha' then? yn dod o Saesneg Gwlad yr Haf.
  • Daw daps (esgidiau dal adar!) o'r tu draw i afon Hafren hefyd. Fodd bynnag, gallai'r term "daps" gyfeirio at arwydd yn ffatri "Dunlop Athletic Plimsoles". Cyfeiriwyd at y ffatri fel "Y Ffatri Daps".

Llenyddiaeth

Rhai enghreifftiau o awduron sydd wedi ysgrifennu Wenglish mewn nofelau ydy Rachel Trezise, Catrin Dafydd, Gwyn Thomas, Dylan Thomas, Trezza Azzopardi a Dannie Abse.

Dolenni allanol

Tags:

Wenglish Ynganiad a NodweddionWenglish Dylanwad y GymraegWenglish Dylanwad y SaesnegWenglish LlenyddiaethWenglish Dolenni allanolWenglishCymraegCymruSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

MathemategGeauga County, OhioMiller County, ArkansasVan Buren County, ArkansasHappiness AheadLeah OwenEfrog Newydd (talaith)Gwledydd y bydEscitalopramSafleoedd rhywMargarita Aliger18062022Williams County, Ohio321Lawrence County, ArkansasVittorio Emanuele III, brenin yr EidalDelta, OhioRhyfel Cartref AmericaCyfarwyddwr ffilmGenreSex & Drugs & Rock & RollCheyenne County, NebraskaWolvesRasel OckhamLabordyBalcanauPentecostiaethThe BeatlesElinor OstromDinas MecsicoY Sgism OrllewinolY Rhyfel Byd CyntafAnna MarekWcreinegArolygon barn ar annibyniaeth i GymruLafayette County, ArkansasJohn Eldon BankesStark County, OhioBaltimore County, MarylandCyfieithiadau i'r GymraegJacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afWarsawNevin Çokay1410CeidwadaethY Rhyfel OerYmosodiad Israel ar Lain Gaza 2014Phoenix, ArizonaAmericanwyr SeisnigCoeur d'Alene, IdahoClark County, OhioYr Ymerodraeth OtomanaiddMonsantoJohn DonnePatricia CornwellThe SimpsonsPhasianidaeCarlos Tévez1642Gwanwyn PrâgWcráinCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol (Yr Unol Daleithiau)LlynRobert GravesWilliam S. BurroughsPalais-RoyalJeff DunhamRoxbury Township, New JerseyAdda o FrynbugaIndonesegPêl-droedCleburne County, ArkansasToyotaAwdurdodHarry Beadles🡆 More