Mae Daniel Lloyd yn actor ac yn berfformiwr sy'n adnabyddus am sawl rhan actio ac fel cyfansoddwr a phrif leisydd y grŵp pop Cymraeg, Daniel Lloyd a Mr Pinc.
Daniel Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1982 Rhosllannerchrugog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Magwyd Daniel yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam a'i hyfforddi yn Ysgol Ddrama East 15. Mae bellach yn byw yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, gyda'i wraig Elen, sy'n therapydd lleferydd Cyhoeddodd iddo ddyweddio ag Elen yn ystod gwyliau i Rufain ar 7 Chwefror 2010. Cyhoeddodd mewn cyfweliad â Lisa Gwilym ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru ar 23 Chwefror 2011 ei fod ef ac Elen wedi priodi. Mae ganddynt ddau blentyn.
Bu'n chwarae sawl rhan gyda Clwyd Theatr Cymru: Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming Of The Shrew, Animal Farm, Yesterday, The Suicide, Tales From Small Nations, A Midsummer Night’s Dream a 15 rôl mewn pantos roc a rôl olynol yn cynnwys Sleeping Beauty, Aladdin, Robin Hood & The Babes in The Wood, Cinderella, Jack and the Beanstalk, Beauty & The Beast. Bu iddo hefyd ymddangos fel Blondel/Will Scarlet in Robin Hood and the Babes in the Wood.
Mae Daniel Lloyd hefyd wedi cyfarwyddo cynhyrchiadau gan cynnwys: The White Feather, Arandora Star, The Butterfly Hunter, Far From The Madding Crowd, Toxic Whispers a Cloudbusting, It’ll All Be Over By Christmas a dau pantomeim llawn sêr Shane Williams ar gyfer S4C.
Mae hefyd yn brif ganwr y band Daniel Lloyd a Mr Pinc sydd wedi rhyddhau sawl record ac wedi teithio’n helaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae gyrfa gerddoriaeth Daniel wedi ei weld yn rhyddhau dau albwm, Goleuadau Llundain (2005) gyda Mr Pinc, a gyrhaeddodd rif 4 yn Siart Cerddoriaeth Gymraeg Radio Cymru, a Tro Ar Fyd (2009) fel artist unigol, a gyrhaeddodd rif 3 yn yr un rhestr.
Mae Dan yn gitarydd/canwr-gyfansoddwr/aml-offerynnwr proffesiynol ac wedi cael llwyddiant gyda'i albwm stiwdio unigol cyntaf Tro Ar Fyd. Mae'n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio gan cynnwys: Wedi 3, Ar Gamera, Yr Ystafell Fyw, Trac, Gofod, Bro, Gŵyl Y Faenol, Pws, Wedi 7, Noson Lawen, Nodyn, Uned 5, Bandit, Heno. Gwnaeth hefyd ail-weithio anthem bêl-droed adnabyddus C.P.D. Wrecsam o'r 1980au, "I mewn i’r Gol!".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daniel Lloyd (perfformiwr), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.