Grwp roc ysgafn ydy Daniel Lloyd a Mr Pinc sy'n canu caneuon melodig a phoblogaidd.
Y prif leisydd a'r cyfansoddwr yw Daniel Lloyd sy'n wreiddiol o Rosllannerchrugog. Recordwyd eu cryno ddisg cyntaf, Goleuadau Llundain yn 2004; ers hynny maent wedi perfformio ar lwyfannu led-led Cymru a thu-hwnt.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Genre | cerddoriaeth roc |
Yn cynnwys | Daniel Lloyd |
Aelodau: Daniel Lloyd (llais a gitâr), Elis Roberts (drums), Aled 'Cae Defaid' Morgan (gitâr), Dai (allweddellau) a Robin Owain Jones (bass).
Ymysg y cyn-aelodau mae Mei Roberts (bâs), Betsan Haf Evans (congas a lleisiau cefndir), Rich 'Doc' Roberts (gitâr), Gareth Coleman (allweddellau), Jeni Lyn (cornet), a Sara Mair Bowen (ffidl) - gyda Phyl Harries (Sax), Elain Llwyd (lleisiau cefndir), a Ffion Llwyd (lleisiau cefndir) yn ymuno yn achlysurol.
Cafodd y band seibiant yn 2011 cyn ail-ffurfio yn 2017 gan ryddhau'r sengl Mesur y Dyn
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Daniel Lloyd a Mr Pinc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.