Planhigyn ymgripiol a dringol o deulu'r cicaionau neu'r gowrdiau (Cucurbitaceae) yw'r melon dŵr, dyfrfelon neu sitrul (Citrullus lanatus).
Melon dŵr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Cucurbitales |
Teulu: | Cucurbitaceae |
Genws: | Citrullus |
Rhywogaeth: | C. lanatus |
Enw deuenwol | |
Citrullus lanatus |
Tarddai'r rhywogaeth yn neheudir Affrica, gyda thystiolaeth o'i thyfiant yn yr Hen Aifft. Tyfir mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol ar draws y byd ar gyfer ei ffrwyth mawr bwytadwy sydd yn fath arbennig o aeron a chanddo groen caled a dim adrannau fewnol, a elwir yn fotanegyddol yn pepo. Mae'r cnawd melys, suddog fel arfer yn lliw coch tywyll i binc, gyda nifer of hadau du, er mae nifer o amrywiaethau di-hedyn wedi'u tyfu. Mae'r ffrwyth yn gallu cael ei fwyta'n amrwd neu ei biclo ac mae'r croen yn fwytatwy wedi coginio.
Mae llawer o ymdrechion bridio wedi cael ei rhoi i mewn i amrywiaethau sy'n gwrthsefyll afiechydon. Mae nifer o dyfiant ar gael sy'n cynhyrchu ffrwyth aeddfed o fewn 100 diwrnod o blannu'r cnwd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Melon dŵr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.