Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 – 18 Chwefror 1546).
Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.
Martin Luther | |
---|---|
Ganwyd | Martin Luder 10 Tachwedd 1483 Lutherstadt Eisleben |
Bedyddiwyd | 11 Tachwedd 1483 |
Bu farw | 18 Chwefror 1546 Lutherstadt Eisleben |
Man preswyl | Lutherstadt Eisleben, Mansfeld, Magdeburg, Eisenach, Erfurt, Wittenberg |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, diwinydd, athro cadeiriol, mynach Cristnogol gorllewinol, cyfreithiwr, cyfieithydd y Beibl, emynydd, diwygiwr Protestannaidd, henuriad, athronydd, gweinidog bugeiliol, ysgrifennwr, pregethwr, cyfansoddwr, copïwr |
Swydd | academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | y Naw Deg a Phum Pwnc |
Prif ddylanwad | Awstin o Hippo |
Mudiad | y Dadeni Almaenig, y Diwygiad Protestannaidd, Protestaniaeth |
Tad | Hans Luther |
Mam | Margaretha Luther |
Priod | Katharina von Bora |
Plant | Elisabeth Luther, Paul Luther, Magdalena Luther, Margarete Kunheim, Martin Luther, Johannes Luther |
llofnod | |
Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.
Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.
Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.
Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Martin Luther, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.