Mewn mathemateg, elfen o'r set (h.y.
y cyfanrifau positif) yw rhif naturiol. Mewn sawl cyd-destyn, ystyrir 0 yn rhif naturiol yn ogystal, a {0, 1, 2, 3, ...} (h.y. y cyfanrifau an-negatif) yw'r set o rifau naturiol wedyn. Y disgrifiad cyntaf, heb sero, yw'r un arferol mewn damcaniaeth rhifau, ond yr ail a ddefnyddir mewn rhesymeg fathemategol, damcaniaeth setiau a chyfrifiadureg.
Enghraifft o'r canlynol | type of integer |
---|---|
Math | non-negative integer |
Rhan o | set of non-negative integers, set of positive integers |
Yn cynnwys | non-negative integer, positive integer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellid defnyddio rhif naturiol at ddau bwrpas: i gyfri (e.e. "mae yna dair afal ar y bwrdd"), neu i drefnu ("hon yw trydedd ddinas fwyaf y wlad").
Mae damcaniaeth rhifau yn trafod priodweddau'r rhifau naturiol sy'n ymwneud â rhanadwyedd, dosraniad y rhifau cysefin er enghraifft. Trafodir problemau'n ymwneud â chyfri mewn cyfuniadeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhif naturiol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.