Mae'r Pyreneau (Sbaeneg: Pirineos; Ffrangeg: Pyrénées; Catalaneg: Pirineus; Aragoneg: Perineus; Basgeg: Pirinioak) yn fynyddoedd yn ne-orllewin Ewrop sy'n gwahanu Ffrainc a Sbaen.
Maent yn ymestyn am tua 430 km (267 milltir) o Fae Biscay i Fôr y Canoldir.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pyrene |
Cysylltir gyda | Penrhyn Iberia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Lleoliad | South-West Europe |
Sir | Nouvelle-Aquitaine, Ocsitania, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, Aragón, Nafarroa Garaia, Catalwnia |
Gwlad | Sbaen, Ffrainc, Andorra |
Arwynebedd | 19,000 km² |
Uwch y môr | 3,404 metr |
Yn ffinio gyda | Valley of Ebro, Aquitaine Basin |
Cyfesurynnau | 42.67°N 1°E |
Hyd | 491 cilometr |
Cyfnod daearegol | Ëosen, Paleosöig, Mesosöig |
Deunydd | craig fetamorffig |
Enwyd y Pyreneau ar ôl Pyrene (tân mewn Groeg), cymeriad mewn mytholeg Roeg, merch Bebryx, a reibiwyd gan Herakles. Ffôdd i'r mynyddoedd lle cafodd ei chladdu neu ei bwyta gan anifeiliaid gwyllt.
Mae'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn dilyn llinell copaon uchaf y Pyreneau am y rhan fwyaf o'i hyd; mae gwlad fechan Andorra ynghanol y Pyrenaeau. Y mynyddoedd uchaf yw Pico d'Aneto neu Pic de Néthou 3,404 m (11,168 troedfedd), Mont Posets 3,375 m a Mont Perdu neu Monte Perdido 3,355 m.
Mae'r Pyreneau yn nodedig am amrywiaeth o anifeiliaid, adar a phlanhigion, gan gynnwys rhai mathau sy'n unigryw i'r mynyddoedd yma. Yn y gaeaf mae sgïo yn boblogaidd yma, tra yn yr haf mae'r Pyreneau yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr a mynyddwyr. Mae tri llwybr cerdded pellter hir yn arwain ar draws y Pyreneau, GR 10 yn Ffrainc ar hyd y llethrau gogleddol, GR11 yn Sbaen ar draws y llethrau deheuol a'r Haute Randonnée Pyrénéenne (HRP) sy'n arwain ar hyd y copaon.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pyreneau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.