Brwydr Stalingrad

Brwydr yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Stalingrad (17 Gorffennaf 1942 - 2 Chwefror 1943), a ymladdwyd rhwng byddin yr Undeb Sofietaidd a byddin yr Almaen Natsïaidd a'i chyngheiriaid.

Ymladdwyd y frwydr o amgylch dinas Stalingrad (Volgograd heddiw), ar afon Volga. Ystyrir y frwydr yn un o frwydrau pwysicaf yr Ail Ryfel Byd, a buddugoliaeth y Fyddin Goch yn drobwynt yn y rhyfel.

Brwydr Stalingrad
Brwydr Stalingrad
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Rhan oY Ffrynt Dwyreiniol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Awst 1942 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2 Chwefror 1943 Edit this on Wikidata
LleoliadVolgograd Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd yr Almaen, ar orchymyn Adolf Hitler, wedi ymosod ar yr Undeb Sofietaidd yn mis Mehefin 1941, er gwaethaf cytundeb heddwch rhwng Hitler a Joseff Stalin. Galwyd yr ymosodiad yn Gyrch Barbarossa. Yn y misoedd cyntaf, dioddefodd y Fyddin Goch golledion dychrynllyd, ac erbyn mis Hydref roedd yr Almaenwyr yn agos at Foscfa. Fodd bynnag, ni lwyddasant i gipio'r ddinas.

Yn ystod haf 1942, ymosododd Chweched Byddin yr Almaen dan Friedrich Paulus yn y de. Dechreuodd yr ymgyrch ar 28 Mehefin. Ar 19 Awst gorchymynwyd cipio dinas Stalingrad. Ar 12 Medi, penodwyd Vasily Chukov i arwain yr amddiffynwyr yn y ddinas. Dros y misoedd nesaf bu brwydro caled o gwmpas ac yn adfeilion Stalingrad. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr, a lladdwyd tua 40,000 o drigolion y ddinas.

Tra roedd yr ymladd yn parhau yn y ddinas, cynlluniodd y cadfridog Georgi Zhukov wrth-ymosodiad i godi'r gwarchae ar Stalingrad ac amgylchynu'r Chweched Byddin. Dechreuodd yr ymosodiad hwn ar 19 Tachwedd. Ar 23 Tachwedd, gorchymynodd Hitler nad oedd y Chweched Byddin i encilio, ond i amddiffyn eu safleoedd hyd angau. Llwyddodd y Fyddin Goch i amgylchynu'r Almaenwyr.

Ym mis Chwefror, ildiodd Paulus a gweddillion ei fyddin i'r Fyddin Goch. Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen golli brwydr ar raddfa fawr yn yr Ail Ryfel Byd, a Paulus oedd y cadlywydd Almaenig cyntaf erioed i'w gymeryd yn garcharor.

Baner RwsiaEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

17 Gorffennaf194219432 ChwefrorAfon VolgaStalingradVolgogradY Fyddin GochYr Ail Ryfel BydYr Almaen NatsïaiddYr Undeb Sofietaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Safle Treftadaeth y BydGigafactory TecsasThe BirdcageAvignonIrene González HernándezGemau Olympaidd yr Haf 2020Beti GeorgeDonostiaRhyfel y CrimeaIwan Llwyd4 ChwefrorGuys and DollsYsgol Rhyd y LlanPort TalbotBridget BevanRhisglyn y cyllCaerdyddAnna VlasovaPornograffiPensiwnPriestwoodFlorence Helen WoolwardWikipediaHTTPMorlo YsgithrogSystem weithreduTo Be The BestIrisarriLloegrMaries LiedKylian MbappéThe Witches of BreastwickRibosomAdeiladuOriel Gelf GenedlaetholDestins ViolésISO 3166-1Cyfnodolyn academaiddCordogGemau Olympaidd y Gaeaf 20221942Mount Sterling, IllinoisBetsi CadwaladrMapDewi Myrddin HughesCathGhana Must GoCariad Maes y FrwydrDriggRhyw diogelIKEAHenry LloydTeganau rhywTrawstrefaFfilm gomediGoogleYsgol Gynradd Gymraeg BryntafHunan leddfuNedwCoridor yr M4David Rees (mathemategydd)Penelope LivelyLeonardo da VinciHolding HopePandemig COVID-19Margaret Williams2009PortreadGwenno Hywyn🡆 More