Apocryffa'r Beibl

Testunau apocryffaid sydd yn rhannu themâu a nodweddion tebyg gyda llyfrau'r Beibl yw Apocryffa'r Beibl.

Bathwyd yr enw Apocryffa (Groeg: apokryphos, sef "cudd") gan Sant Sierôm yn y 5g i ddisgrifio'r llyfrau a gynhwysir yng nghyfieithiad Groeg yr Hen Destament, y Deg a Thrigain, ond nas cynhwysir yn y Beibl Hebraeg. Yn sgil twf ysgolheictod Beiblaidd a beirniadaeth hanesyddol yn y 19g, daeth testunau'r Apocryffa yn bwysig fel ffynonellau o'r cyfnod rhyngdestamentaidd (4g CC i'r 1g OC). Ceir ynddynt hefyd dealltwriaeth o'r datblygiadau mewn athrawiaeth a diwethafiaeth y crefyddau Iddewig a Christnogol, ar bynciau megis anfarwoldeb ac atgyfodiad yr Iesu.

Yr Hen Destament

Cynnyrch yr Iddewon Helenistaidd oedd cyfieithiad y Deg a Thrigain. Y llyfrau yma a ystyriwyd yn anghanonaidd gan Iddewon eraill yw Llyfr Jwdith, Doethineb Solomon, Llyfr Tobit, Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), Llyfr Baruch, a llyfrau'r Macabeaid (1 a 2). Gweithiau hanesyddol neu ffug-hanesion yw Jwdith a Tobit, a llên ddoethineb yw Doethinebau Solomon a Sirach, yn debyg i Lyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Ychwanegiad at Lyfr Jeremeia yw Baruch, o safbwynt ysgrifennydd y proffwyd hwnnw. Hanesion yn nhraddodiad llyfrau Samuel (1 a 2), y Brenhinoedd (1 a 2), a'r Croniclau (1 a 2) yw llyfrau'r Macabeaid.

Yn ogystal â'r llyfrau apocryffaidd a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae sawl gwaith arall a ystyrir yn Apocryffa'r Hen Destament: llyfrau Esdras (1 a 2), yr Ychwanegiadau at Lyfr Esther (Esther 10:4-10), Cân y Tri Llanc (Daniel 3:24-90), Swsanna (Daniel 13), Bel a'r Ddraig (Daniel 14), a Gweddi Manase. Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn dilyn trefn y Deg a Thrigain, ac yn ystyried holl Apocryffa'r Hen Destament yn ganonaidd, ac eithrio dau lyfr Esdras a Gweddi Manase. Cyfeirir at y testunau a ystyrir yn apocryffaidd gan y Protestaniaid, ond nid gan y Pabyddion a'r Uniongredwyr, yn llyfrau isganonaidd, ailganonaidd, neu'n ddewteroganonaidd.

Rhoddir yr enw ffugysgrifeniadau (Groeg: pseudepigraphos) ar y testunau nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd gan unrhyw o'r prif enwadau, na chan yr Iddewon. Ymhlith y gweithiau hyn mae Llyfr y Jiwbilïau, Salmau Solomon, Pedwerydd Llyfr y Macabeaid, Llyfr Enoc, Pedwerydd Llyfr Esra, Apocalyps Baruch, a Thestamentau'r Deuddeg Patriarch. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd, a ni cheir ffynonellau Hebraeg nac Aramaeg gwreiddiol ohonynt. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn Sgroliau'r Môr Marw.

Y Testament Newydd

Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifeniadau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant yn rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.

Cyfeiriadau

Tags:

ApocryffaAtgyfodiad yr IesuBeiblBeirniadaeth hanesyddolCristnogaethDiwethafiaethGroeg (iaith)IddewiaethSierômY Beibl HebraegYr Hen Destament

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

SgitsoffreniaJimmy WalesPen-y-bont ar OgwrY LolfaWikipediaAlmaenHuluGwyddoniadurFideo ar alwTrydanHob y Deri Dando (rhaglen)Dydd MercherGwleidyddiaeth y Deyrnas UnedigTwo For The MoneyEleri MorganAutumn in MarchCyfathrach rywiolHamlet69 (safle rhyw)JapanY CwiltiaidRhestr o safleoedd ioga1993Afon DyfiAn Ros MórArfon WynAlbert Evans-JonesSafleoedd rhywDe Clwyd (etholaeth seneddol)Afon TywiMarylandAlldafliadChwyddiantYsgol Dyffryn AmanMathemategyddSex TapeSystème universitaire de documentationDonald TrumpMeirion EvansRhys MwynHywel Hughes (Bogotá)Winslow Township, New JerseyArchdderwyddCilgwriLorna MorganAneurin BevanGwobr Goffa Daniel OwenTudur OwenPrif Weinidog CymruPidyn2020au9 MehefinAfon Gwendraeth FawrManon Steffan RosEigionegPorthmadogDafadAlexandria RileyMark DrakefordConnecticutDurlifRhyw llawYsgol Gyfun YstalyferaSinematograffyddBugail Geifr LorraineY TribanAfon Wysg1971Alldafliad benywSiccin 2Planhigyn🡆 More