Casgliad o lawysgrifau a ganfuwyd mewn ogofâu ger y Môr Marw rhwng 1947 a 1956 yw Sgroliau'r Môr Marw.
Fe'u hysgrifennir yn Hebraeg yn bennaf, ar barsment, brwynbapur a chopr, ac maent yn dyddio'n ôl i'r cyfnod 150 CC i 68 OC. Maent yn cynnwys rhannau o'r Beibl Hebraeg, hynny yw yr Hen Destament, a thestunau crefyddol eraill.
Bu darganfyddiad y sgroliau o bwysigrwydd enfawr i archaeoleg y Dwyrain Agos a hanesyddiaeth y Beibl. Gan astudio'r sgroliau, tybir ysgolheigion i ganon y Beibl Hebraeg ffurfio cyn y flwyddyn 70 OC, a theflir goleuni ar hanes Palesteina o'r 4g CC hyd 135 OC gan gynnwys hanes cynnar Cristnogaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sgroliau'r Môr Marw, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.