ON Ni ddylid drysu'r Eglwys hon ag Eglwys y tri chyngor, a elwir yn Oriental Orthodox yn Saesneg.
Ail enwad Gristnogol fwya'r byd, a'r mwyaf o'r Eglwysi Uniongred, gyda rhwng 150 a 350 miliwn o ddilynwyr, yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Fe wahanodd o Eglwys y tri chyngor ym 451, ac o'r Eglwys Gatholig Rufeinig ym 1054. Prif grefydd Belarws (89%), Bwlgaria (86%), Gweriniaeth Cyprus (88%), Georgia (89%), Gwlad Groeg (98%), Macedonia (70%), Moldofa (98%), Montenegro (84%), Rwmania (89%), Ffederasiwn Rwsia (76%), Serbia (88%), ac Wcráin (83%) ydyw, a cheir niferoedd sylweddol mewn gwledydd eraill.
Ymrannodd yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a'r Eglwys Gatholig oddi wrth ei gilydd yn y Sgism Fawr neu'r Sgism Ddwyreiniol fel y'i gelwir weithiau, (Groeg schisma). Dechreuodd yn 857 pan ysgymunwyd Photius, Patriarch Caergystennin gan y Pab Sant Nicolas I (858 - 867). Ymatebodd y patriarch drwy herio uniongrededd Eglwys Rhufain, yn arbennig yn achos cymal yng Nghredo Nicea ynglŷn â tharddiad yr Ysbryd Glân o Grist (y cymal filioque "ac o'r Mab..").
Daeth yr anghydfod i'w uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin (1043 - 1058) am iddo feirniadu diweirdeb offeiriadol gorfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd. Er gwaethaf ymgeision i gymodi yn Ail Gyngor Lyons yn 1274 a Chyngor Fflorens yn 1439, daeth y rhwyg terfynol yn 1472. Un ffactor a arweiniodd at y rhwyg terfynol oedd ymddygiad y Croesgadwyr yn ymosod ar Gristnogion ac eglwysi uniongred yn Asia Leiaf a'r Lefant, gan gynnwys ymosod ar Gaergystennin ei hun a'i dal (1204 - 1261).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.