Prifddinas Iemen yw Sana'a, hefyd Sanaa neu Sana (Arabeg:صنعاء, aş-Şana`ā).
Roedd y boblogaeth yn 2012 yn 1,937,451.
Math | dinas, prifddinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 2,957,000 |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Iemen |
Gwlad | Iemen |
Arwynebedd | 3,450 ±1 km² |
Uwch y môr | 2,150 ±1 metr, 2,253 metr |
Yn ffinio gyda | Sanaa Governorate |
Cyfesurynnau | 15.35°N 44.2°E |
Sefydlwydwyd gan | Sem |
Sefydlwyd Sana'a yn y 3g, efallai ar safle hŷn. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Sem, un o feibion Noa. Daeth yn brifddinas yr Himiaritiaid o 520) ymlaen, ac yn ystod y 6g bu Ymerodraeth Persia ac Ethiopia yn ymladd a'i gilydd i reoli'r ardal. Pan oedd yr Ethiopiaid yn meddiannu'r ardal, gyda chymorth yr Ymerawdwr Bysantaidd Justinianus I, adeiladwyd eglwys gadeiriol fawr, y fwyaf i'r de o Fôr y Canoldir. Yn 628 cipiwyd Iemen gan luoedd dilynwyr y proffwyd Muhammad.
Daeth Sana'a yn Swltaniaeth hunanlywodraethol dan yr Ymerodraeth Ottoman yn 1517. Tua diwedd y 19g, fe'i hymgorfforwyd yn yr ymerodraeth, gyda llai o hunanlywodraeth. Dynodwyd canol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sana'a, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.