Y grefft a'r wyddor o gynllunio adeiladau yw pensaernïaeth.
Diffiniad ehangach fyddai cynnwys holl amgylchedd adeiladu. Mae hynny yn cynnwys tirlunio, sef cynllunio tirlun, cynllunio gwlad a thref, sef cynllunio strwythur sylfaenol ardaloedd a pheirianneg sifil, sef cynllunio adeiladwaith megis ffyrdd, pontydd, twneli a chamlesi.
Mae pensaernïaeth yn cynnwys cynllunio adeiladau cyhoeddus ac adeiladau preifat yn ogystal â chyfuniadau o adeiladau, er enghraifft stadau tai. Mae pensaernïaeth yn wyddionaeth bwysig ar gyfer cadwraeth adeiladau hefyd.
Yn 2001 sefydlwyd Ysgogoloriaeth Pensaernïaeth yr Eisteddfod Gelf a Chreft. Amcan yr ysgoloriaeth yw hyrwyddo pensaernïaeth greadigol a dylunio yng Nghymru.
Mae penseiri enwog Cymru yn cynnwys John Nash (1758-1835), pensaer yr eglwys gadeiriol Tyddewi a Syr Clough Williams-Ellis (1883-1978), pensaer y pentref Eidalaidd Portmeirion.
Ymhlith yr ysgolion mwyaf dylanwadol y mae: Bauhaus (Weimar, Dessau a Berlin yn yr Almaen), yr Architectural Association School of London (Lloegr) a'r École des Beaux-Arts (Paris, Ffrainc; hyd at 1968, ers hynny École d'Architecture).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pensaernïaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.