Pandemig ffliw a ledodd i bron pob rhan o'r byd oedd pandemig ffliw 1918 neu'r ffliw Sbaenaidd.
Achoswyd gan straen marwol a hynod o heintus o'r feirws ffliw A, is-deip H1N1. Nid yw data hanesyddol ac epidemiolegol, bellach, yn ddigonol i ganfod tarddiad daearyddol y feirws. Oedolion ifanc iach oedd y mwyafrif o ddioddefwyr, er bod tarddiannau ffliw gan amlaf yn effeithio'r ifanc, yr henoed, neu gleifion sydd fel arall yn wan yn bennaf. Mae'r pandemig ffliw hefyd wedi'i gysylltu â'r tarddiant sydyn o enseffalitis lethargica yn y 1920au, er bod ymchwil wedi methu darganfod unrhyw dystiolaeth o feirws, ffliw neu arall, yn gysylltiedig â'r afiechyd hwn.
Parhaodd y pandemig o fis Mawrth 1918 i Fehefin 1920, gan ledu i hyd yn oed yr Arctig ac ynysoedd anghysbell yn y Cefnfor Tawel. Yr unig ardal boblog na effeithiwyd oedd ynys Marajó yn aber afon Amazonas, Brasil. Amcangyfrifwyd i 10,000 o bobl farw yng Nghymru ac i 50–100 miliwn o bobl gael eu lladd fyd-eang, sef tua traean o boblogaeth Ewrop. Amcangyfrifwyd i 500 miliwn o bobl, traean o boblogaeth y byd (tua 1.6 biliwn ar y pryd), gael eu heintio.
Defnyddiwyd samplau meinwe o gleifion rhewedig i atgynhyrchu'r feirws er mwyn ei astudio. Oherwydd ffyrnigrwydd a gwenwyndra eithafol y straen mae doethineb y fath ymchwil yn ddadleuol. Ymysg casgliadau'r ymchwil hwn y mae dull y feirws o ladd trwy storm cytokine (gorymateb gan system imiwnedd y corff) sy'n egluro ei natur ddifrifol a phroffil oedran ei ddioddefwyr. Difroda gyrff oedolion ifanc gan eu systemau imiwnedd cryf, tra bo systemau imiwnedd gwanach plant ac oedolion canol-oed yn achosi llai o farwolaethau.
Un ffynhonnell bosibl o'r feirws gwreiddiol ydyw Fort Riley, Kansas, pan newidiodd un feirws o fewn i ddofednod (ieir ac adar tebyg) ac mewn moch oedd yn cael eu cadw i fwydo milwyr y gaer. Pan adawsant y gaer i bob cwr o'r byd fe ledaenwyd y feirws gyda nhw. Mae damcaniaeth arall, fodd bynnag, yn dweud mai ffynhonnell y ffliw hwn oedd adar.
Ymchwiliodd Rwth Tomos i effeithiau'r pandemig ar blant ysgol Trawsfynydd lle roedd camp milwrol Rhiwgoch wedi ei sefydlu gerllaw. Gwelwyd yr effeithiau ar y plant a'r staff yn hwyr yn y flwyddyn ar ôl cyfnod o difftheria yn y pentref. Dywedir mai ysgol Bronaber ymhellach i lawr y dyffryn oedd ysgol y teuluoedd milwrol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pandemig ffliw 1918, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.