Nicosia (Groeg: Λευκωσία, Levkosía, Twrceg: Lefkoşa) yw prifddinas Cyprus.
Saif ar afon Pedieos, ac mae'r boblogaeth tua 310,000.
Math | prifddinas, dinas fawr, dinas yng Nghyprus, tref wedi'i rhannu gan ffin |
---|---|
Poblogaeth | 330,000 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Nicosia |
Sir | Ardal Nicosia |
Gwlad | Cyprus, Gogledd Cyprus |
Arwynebedd | 51.06 km² |
Uwch y môr | 220 metr |
Gerllaw | Pedieos |
Cyfesurynnau | 35.1725°N 33.365°E |
Cod post | 1010–1107 |
Mae'r ddinas ar hyn o bryd wedi ei rhannu, gyda'r rhan ddeheuol yn perthyn i Weriniaeth Cyprus (y rhan Roegaidd o'r ynys) a'r gogledd i Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Gelwir y ffîn, sy'n mynd ar draws y ddinas o'r dwyrain i'r gorllewin, "y llinell werdd", ac mae dan reolaeth y Cenhedloedd Unedig.
Ar 3 Ebrill 2008, agorwyd Stryd Ledra yng nghanol Nicosia i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers 34 mlynedd, fel croesfan rhwng y ddwy ran o'r ddinas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Nicosia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.