Un o'r tri rhywogaeth o Eliffant sy'n fyw heddiw yw'r Eliffant Asiaidd (Elephas maximus).
Eliffant Asiaidd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Proboscidea |
Teulu: | Elephantidae |
Genws: | Elephas |
Rhywogaeth: | E. maximus |
Enw deuenwol | |
Elephas maximus (Linnaeus, 1758) |
Fe'i gelwir weithiau yn Eliffant Indiaidd, enw un o'r tri is-rywogaeth. Er ei fod ychydig yn llai na'r Eliffant Affricanaidd, ef yw'r mamal tir sych mwyaf yn Asia.
Fe'i ceir yn Bangladesh, India, Sri Lanca, Indo-Tsieina a rhannau o Nepal ac Indonesia (yn enwedig Borneo), Fietnam a Gwlad Tai. Fel anifail gwyllt, ystyrir ei fod mewn perygl, gyda rhwng 41,410 a 52,345 yn weddill. Gellir ei ddofi yn gymharol hawdd, a defnyddir cryn nifer ohonynt ar gyfer gwahanol dasgau mewn gwahanol rannau o Asia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eliffant Asiaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.