Mae Borneo yn ynys yn ne-ddwyrain Asia.
Gydag arwynebedd o 743,330 km² (287,000 milltir sgwar), hi yw'r drydedd ynys yn y byd o ran maint. Mae rhan ddeheuol a chanol yr ynys yn perthyn i Indonesia, dan yr enw Kalimantan. Yn Indonesia defnyddir "Kalimantan" am yr ynys i gyd. Rhennir y rhan ogleddol rhwng Maleisia a gwladwriaeth annibynnol Brwnei.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 18,590,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysfor Maleia |
Gwlad | Indonesia Maleisia Brwnei |
Arwynebedd | 748,168 km² |
Uwch y môr | 4,095 metr, 113 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Sulu Sea, Môr De Tsieina, Y Môr Java, Môr Celebes, Makassar Strait |
Cyfesurynnau | 1°S 114°E |
Hyd | 1,366 cilometr |
I'r gorllewin o Borneo mae Rhagynys Malaya ac ynys Sumatera. I'r de mae ynys Jawa ac i'r dwyrain Sulawesi. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kinabalu yn Sabah, Maleisia, sy'n 4,095 m (13,435 troedfedd) o uchder.
Rhennir rhan Indonesia o'r ynys yn bedair talaith: Dwyrain Kalimantan, De Kalimantan, Gorllewin Kalimantan a Canolbarth Kalimantan. Rhennir rhan Maleisia yn ddwy dalaith, Sabah a Sarawak.
Mae cyfoeth eithriadol o fywyd gwyllt ar Borneo, er enghraifft 15,000 o rywogaethau o blanhigion blodeuog, yn cynnwys 3,000 o rywogaethau o goeden, 221 rhywogaeth o famal a 420 rhywogaeth o aderyn. Ar un adeg roedd fforest law drofannol yn gorchuddio rhan fawr o'r ynys, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae llawer o'r fforest yma wedi diflannu. Mae poblogaeth ddynol yr ynys yn cynnwys tua 30 grŵp ethnig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Borneo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.