Crwban

Cryptodira

Crwban
Amrediad amseryddol: Triasig Diweddar – Diweddar, 215–0 Miliwn o fl. CP
Pg
Crwban
Crwban cloriog Fflorida
(Terrapene carolina bauri)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Testudines
Linnaeus, 1758 
Is-urddau a theuluoedd

  • Chelydridae
  • Testudinidae
  • Bataguridae
  • Emydidae
  • Carettochelyidae
  • Trionychidae
  • Dermatemydidae
  • Kinosternidae
  • Platysternidae
  • Cheloniidae
  • Dermochelyidae

Pleurodira

  • Chelidae
  • Pelomedusidae
  • Podocnemididae
Amrywiaeth
14 teulu gyda thua 300 rhywogaeth
Crwban
Glas: crwbanod y môr. Du: crwbanod y tir.

Ymlusgiad yw'r crwban (lluosog: crwbanod) sy'n perthyn i'r urdd a elwir yn Testudines. Ceir cragen gref sydd wedi'i chysylltu i ran uchaf (cefn) ei gorff ac sydd wedi datblygu dros miliynnau o flynyddoedd allan o esgyrn rhan o'i asennau. Pwrpas y gragen yw amddiffyn ei gorff meddal. Mae rhai rhywogaethau'n byw ar dir, megis y teulu crwbanod tir (tortoises), ac mae rhai'n byw mewn dŵr croyw, megis y terapiniaid. Mae môr-grwbanod yn byw mewn dŵr hallt. Anifail gwaed oer yw'r rhan fwyaf ohonynt.

Ceir ffosiliau sy'n mynd yn ôl cymaint â 250 miliwn o flynyddoedd, sy'n gwneud y crwban yn un o'r ymlusgiaid hynaf ar y Ddaear yn hŷn na chrocodeil, nadroedd a madfallod. Mae rhai ohonynt yn brin iawn.

Fel gweddill y grŵp amniote (adar, deinosoriaid, ymlusgiaid a mamaliaid), maen nhw'n anadlu ocsigen o'r aer ac nid ydynt yn dodwy eu wyau mewn dŵr - er bod llawer iawn ohonynt yn byw ger y dŵr neu mewn dŵr. Mae'r crwbanod mwyaf i gyd yn byw mewn dŵr.

Anatomi

Y crwban mwyaf yw'r môr-grwban lledraidd. Gall dyfu hyd at 200 cm, a gall bwyso hyd at 900 kg. Er hynny, mae'r crwban padloper brych ddim ond yn tyfu hyd at 8 cm o hyd, ac mae'n pwyso tua 140 gm.

Yr Enw

Cafwyd trafodaeth ym Mwletin Llên Natur rhifyn 62 [1] i’r perwyl mai modernbeth cymharol yw dweud crwban i olygu tortoise a crwban y môr i olygu sea turtle. Pwy yng Nghymru welodd ‘tortoise’ dair canrif a mwy yn ôl? Daw‘r elfen crwb- o’r Saesneg crub = hunchback (gw. crwbi [Cym.]). Ymddangosodd cyfeiriad cyntaf at crwban i olygu anifail y môr (golygai hefyd chwilen Carabus gyda llaw) yn 1592 (a sea-crab or lobster) ac i olygu tortoise yn unig yn 1794. Felly, yn lled ddiweddar y cafodd y gair ei briodoli i tortoise.

Cyfeiriadau

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

FylfaCadair yr Eisteddfod GenedlaetholEwcaryotTymhereddAmgylcheddRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruSafle Treftadaeth y BydCyfathrach rywiolSwedenMaries LiedSaltneySylvia Mabel PhillipsMae ar DdyletswyddWicipedia CymraegLibrary of Congress Control NumberRocynmarchnataIn Search of The CastawaysLeonardo da VinciArbeite Hart – Spiele HartPlwmGwïon Morris JonesDmitry KoldunUsenetAnnibyniaethTsunamiCynanMaría Cristina Vilanova de ÁrbenzDisgyrchiantAnhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwyddJohn EliasLLeigh Richmond RooseMorgan Owen (bardd a llenor)CochYnysoedd y FalklandsMarco Polo - La Storia Mai Raccontata1866Garry KasparovDonald Watts DaviesRSSModelYr wyddor GymraegLee TamahoriElectroneg1895Organau rhywLinus PaulingSaratovOjujuGwladoliGwyddbwyllGwlad PwylHeledd Cynwal1942Y Chwyldro DiwydiannolBlwyddynThe BirdcagePeniarthTyrcegCefnfor yr IweryddNewid hinsawddSix Minutes to MidnightHunan leddfuRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainPeiriant tanio mewnolHuw Chiswell🡆 More