Cyfansoddwr o Awstria oedd Arnold Schoenberg neu Schönberg (13 Medi 1874 – 13 Gorffennaf 1951).
Trwy ei gyfansoddiadau ac fel athro, cafodd ddylanwad aruthrol ar gerddoriaeth yng nghanol yr 20g. Fel cyfansoddwr Iddewig, fe'i herlidiwyd gan y Blaid Natsïaidd, a labelodd ei weithiau fel Entartete Musik ("cerddoriaeth ddirywiedig") a'u gwahardd rhag cael eu cyhoeddi. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1933, a daeth yn ddinesydd o'r wlad honno yn 1941.
Arnold Schoenberg | |
---|---|
Schoenberg yn Los Angeles, tua 1948 | |
Ganwyd | Arnold Franz Walter Schönberg 13 Medi 1874 Fienna |
Bu farw | 13 Gorffennaf 1951 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Awstria, Unol Daleithiau America, Awstria-Hwngari, yr Almaen |
Galwedigaeth | cyfansoddwr clasurol, arlunydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, ysgrifennwr, arweinydd, cyfansoddwr, athro cerdd, arlunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Erwartung, Verklärte Nacht, A Survivor from Warsaw |
Arddull | cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, opera, digyweiredd, cyfresiaeth, cerddoriaeth glasurol, Mynegiadaeth, techneg deuddeg-nodyn |
Tad | Samuel Schönberg |
Priod | Gertrud Schoenberg, Mathilde Zemlinsky |
Plant | Gertrud Schönberg, Georg Schönberg, Nuria Nono-Schönberg, Ronny Schönberg, Larry Schönberg |
Gwefan | https://www.schoenberg.org |
Roedd ei gerddoriaeth gynnar yn ymestyn arddulliau cerddorol y cyfansoddwyr Rhamantaidd Brahms a Wagner – arddulliau a ystyriwyd yn anghydnaws yn flaenorol. Roedd yn arbennig o gysylltiedig â'r mudiad Mynegiadaeth ym marddoniaeth a chelf yr Almaen. Datblygodd arddull a oedd yn eithafol yn ei ddefnydd o gromatyddiaeth, mor eithafol fel y daeth i gael ei labelu yn ddigywair; hynny yw, yn perthyn i ddim cywair adnabyddadwy. Yn y 1910au datblygodd y dechneg deuddeg-nodyn, dull o systemateiddio'r defnydd o bob un o'r deuddeg nodyn yn y raddfa gromatig. O'r 1920au ymlaen cafodd y dechneg ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o gyfansoddwyr yn Ewrop a Gogledd America.
Yr oedd Schoenberg yn athro cyfansoddi dylanwadol; roedd ei fyfyrwyr yn Ewrop yn cynnwys Alban Berg, Anton Webern, Hanns Eisler, Egon Wellesz, Nikos Skalkottas a Robert Gerhard, ac yn ddiweddarach yn America, John Cage, Lou Harrison, Earl Kim, Leon Kirchner a Dika Newlin.
Ganwyd Arnold Schoenberg i deulu Iddewig yn Fienna, Awstria, yn 1874. Roedd ei dad Samuel yn siopwr esgidiau a ddaeth o Hwngari; roedd ei fam Pauline yn athrawes piano a ddaeth o Brag. Roedd Arnold yn hunanddysgedig i raddau helaeth, er iddo gael ychydig o wersi gan y cyfansoddwr Alexander Zemlinsky, a fyddai'n dod yn frawd-yng-nghyfraith iddo yn ddiweddarach.
Yn 1898 cafodd Schoenberg ei dröedigaeth at Gristnogaeth yn yr Eglwys Lutheraidd. Dychwelodd at Iddewiaeth yn 1933, oherwydd sylweddolodd fod ei dreftadaeth hiliol a chrefyddol yn anochel, ac i gymryd safbwynt diamwys yn erbyn Natsïaeth.
Priododd â'i wraig gyntaf, Mathilde (1877–1923), chwaer Zemlinsky, yn 1901. Cawsant ddau o blant, Gertrud (1902–1947) a Georg (1906–1974). Cafodd Mathilde garwriaeth â'r arlunydd Richard Gerstl yn 1908; arweiniodd hyn at argyfwng ym mywyd personol Arnold a chyflymodd ddatblygiad chwyldroadol ei arddull gerddorol.
Ym 1915 cafodd ei ddrafftio i'r fyddin a'i hyfforddi fel swyddog wrth gefn, ac yn 1917 fe'i galwyd i wasanaeth gweithredol fel aelod o fand milwrol.
Bu farw ei wraig Mathilde yn 1923. Y flwyddyn nesaf priododd Schoenberg â Gertrud Kolisch (1898–1967), chwaer ei ddisgybl, y feiolinydd Rudolf Kolisch. Bu iddynt dri o blant: Nuria Dorothea (g. 1932), Ronald Rudolf (g. 1937), a Lawrence Adam (g. 1941).
Yn 1926 daeth Schoenberg yn gyfarwyddwr dosbarth meistr mewn cyfansoddi yn Academi Celfyddydau Prwsia (Preußische Akademie der Künste) ym Merlin. Parhaodd yn ei swydd nes i’r Natsïaid ddod i rym ym 1933. Ffoes gyda'i deulu i'r Unol Daleithiau, ar y dechrau i Boston, ac wedyn i Los Angeles lle bu'n dysgu ym Mhrifysgol De Califfornia ac yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles.
Bu farw yn Los Angeles yn 1951.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arnold Schoenberg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.