Affricaneg: Iaith

 Germaneg   Germaneg Orllewinol    Isel Ffranconeg     Iseldireg      Affricaneg

Affricaneg (Afrikaans)
Siaredir yn: De Affrica a Namibia.
Parth: De Affrica (rhanbarth)
Cyfanswm o siaradwyr: 6.4 miliwn fel iaith gyntaf
6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeg

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: De Affrica
Rheolir gan: Die Taalkommissie
Codau iaith
ISO 639-1 af
ISO 639-2 afr
ISO 639-3 afr
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoedd De Affrica yw Affricaneg neu Affricâns. Mae'n tarddu o'r Iseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi fel iaith Germanaidd yn y teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Datblygodd Affricaneg yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr Affricaneriaid (Boeriaid) yn y 18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers 1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion Khoi a San. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.

Demograffeg siaradwyr Affricaneg

Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg 
Plant y Kaapse Kleurling, o'r Wes Kaap, dydy mwyafrif siaradwyr Affricaneg iaith gyntaf ddim yn bobl croenwyn

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymyst, y Kaapse Kleurling, h.y. y bobl gymysgryw y Penrhyn. Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Affricaneg fel mamiaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 De Africa Archifwyd 2018-12-25 yn y Peiriant Wayback. mae 7 miliwn o bobl yn siarad Affricaneg fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned Kaapse Kleurling a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Affricaneg fel iaith gyntaf hefyd.

Mae 11% o boblogaeth Namibia hefyd yn siarad Affricaneg ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio â thalaith Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.

Amcangyfrifir fod rhwng 15 a 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Affricaneg fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.

Mae Affricaneg yn nodweddiadol am fod yn un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf analytig. Hi yw'r unig iaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir Affrica.

Statws a brwydr yr iaith

Tybir i Affricaneg ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad Jan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y ddau can mlynedd nesaf fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Iseldireg y Penrhyn (Kaaps Hollands) ac, yn fwy dirmygus, kombuistaal ‘iaith y gegin’ (nid yn annhebyg i ymadrodd ‘iaith a gegin gefn’ a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).

Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Affricaneg ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaneriaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Affricaneg o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Affricaneg o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Affricaneg"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.

Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Affricaneg yn 1933.

Y Taalmonument - cofeb i'r Affricaneg

Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg 
Obelisg y gofeb iaith, Taalmonument, Paarl

Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument, Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.

Llenorion

Ymlith llenorion yr iaith mae Adam Small a Meville Alexander.

Dosbarthiad tafodieithoedd Affricaneg

  • Iseldireg
    • Affricaneg
      • Kaapse Afrikaans (Affricaneg y Penrhyn)
      • Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Affricaneg pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
      • Oranjerivier-Afrikaans (Affricaneg Afon Oren)
      • Oosgrens-Afrikaans (Affricaneg Ffin y Dwyrain - yr Affricaneg a ddatblygodd gyda'r Voortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
      • Afrikaans Namibia' - mae Affricaneg yn un o brif ieithoedd Namibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mamiaith ac fel lingua franca Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol hop-opera o'r enw Afrikaaps gan artistiaid Affricaneg amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned Kaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Affricaneg) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol goema a reggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presenol.

Dolenni

Cyfeiriadau

Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg 
Wiki
Argraffiad Affricaneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Affricaneg: Demograffeg siaradwyr Affricaneg, Statws a brwydr yr iaith, Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg 
Chwiliwch am Affricaneg
yn Wiciadur.

Tags:

Affricaneg Demograffeg siaradwyr Affricaneg Statws a brwydr yr iaithAffricaneg Y Taalmonument - cofeb ir Affricaneg LlenorionAffricaneg Dosbarthiad tafodieithoedd Affricaneg DolenniAffricaneg CyfeiriadauAffricanegIeithoedd Germanaidd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DulcineaUpsilonJimmy WalesQuella Età MaliziosaNaturRhestr dyddiau'r flwyddyn2012Outlaw KingBorn to DanceTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)MamalCellbilenIn My Skin (cyfres deledu)YnniZia MohyeddinMark TaubertCymraegGwlad PwylJapanBerliner FernsehturmGambloEglwys Sant Beuno, PenmorfaSefydliad WikimediaAfon DyfrdwyIncwm sylfaenol cyffredinolNaked Souls23 HydrefPeiriant WaybackCarles PuigdemontUsenetWcráinAugusta von ZitzewitzAwstraliaSex and The Single GirlAn Ros MórComin WicimediaMarylandSalwch bore drannoethAlbert Evans-JonesHunan leddfuMarion HalfmannY Mynydd Bychan2020Prif Weinidog CymruMahanaAfon Taf (Sir Gaerfyrddin)ShardaPeillian ach Coel1915Tim Berners-LeeInterstellarLlanw LlŷnRhyw llawThe Color of MoneyTwyn-y-Gaer, LlandyfalleYsgrowWicidataLee TamahoriGemau Paralympaidd yr Haf 2012Afon YstwythCeredigionElectronegSex TapeGwobr Goffa Daniel OwenProtonBasgegS4CHywel Hughes (Bogotá)NewyddiaduraethTywysog CymruManon Steffan Ros🡆 More