Cyfansoddwr Almaenaidd o'r cyfnod Baróc oedd Johann Sebastian Bach (21 Mawrth 1685 – 28 Gorffennaf 1750).
Roedd yn organydd profiadol iawn, ac mae ei gyfansoddiadau wedi ysbrydoli bron pob cyfansoddwr a'i ddilynodd.
Johann Sebastian Bach | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mawrth 1685 (yn y Calendr Iwliaidd) Eisenach |
Bedyddiwyd | 23 Mawrth 1685 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 28 Gorffennaf 1750 Leipzig |
Dinasyddiaeth | Saxe-Eisenach, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, organydd, harpsicordydd, fiolinydd, arweinydd, cyfarwyddwr côr, prif fiolinydd, cerddolegydd, athro cerdd, meistr ar ei grefft, athro ysgol |
Swydd | côr-feistr, Thomaskantor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Brandenburg concertos, Chwe Chyfres ar gyfer Sielo Digyfeiliant, Sonatas and partitas for solo violin, Notenbüchlein für Anna Magdalena Bach, Klavierbüchlein für Wilhelm Friedemann Bach, Mass in B minor, Violin Concerto in E major, Gottes Zeit ist die allerbeste Zeit, BWV 106, Toccata and Fugue in D minor, BWV 565, Italian Concerto, Musikalisches Opfer, Die Kunst der Fuge, Das Wohltemperierte Klavier, Englische Suiten, Harpsichord concertos, Amrywiadau Goldberg, Organ Sonatas, Orchestral Suites, Jesu, meine Freude (BWV 227), Herz und Mund und Tat und Leben, BWV 147, Geschwinde, ihr wirbelnden Winde, Inventionen und Sinfonien, Matthäus-Passion, Johannes-Passion, Oratorio'r Nadolig |
Arddull | cerddoriaeth faróc, cerddoriaeth glasurol |
Prif ddylanwad | Antonio Vivaldi, Johann Pachelbel, Johann Georg Pisendel |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Tad | Johann Ambrosius Bach |
Mam | Maria Elisabeth Lämmerhirt |
Priod | Anna Magdalena Bach, Maria Barbara Bach |
Plant | Wilhelm Friedemann Bach, Carl Philipp Emanuel Bach, Johann Christian Bach, Johann Gottfried Bernhard Bach, Johann Christoph Friedrich Bach, Gottfried Heinrich Bach, Catharina Dorothea Bach, Elisabeth Juliana Friderica Bach, Maria Sophia Bach, Johann Christoph Bach, Leopold Augustus Bach, Christiana Sophia Enrietta Bach, Regina Susanna Bach, Johanna Carolina Bach, Christiana Dorothea Bach, Christiana Benedicta Louisa, Regina Johanna Bach, Johann August Abraham Bach, Ernestus Andreas Bach, Christian Gottlieb Bach |
Perthnasau | Christoph Bach |
Llinach | teulu Bach |
llofnod | |
Ysgrifennwyd llawer o'i weithiau enwocaf ar gyfer offerynnau allweddell: yr organ, a'r harpsicord yn bennaf. Mae'r preliwd a'r ffiwg yn amlwg iawn ymysg y gweithiau hyn, er enghraifft yn nwy lyfr y Wohltemperiertes Klavier. Ysgrifennodd llawer o gerddoriaeth siambr a cherddorfaol hefyd, yn aml ar ffurf sonata neu goncerto, y Concerti Brandenburg enwog er enghraifft. Ffurfia gweithiau corawl a lleisiol rhan fawr o'i allbwn, ysgrifennwyd llawer ohonynt ar gyfer wasanaethau crefyddol cristnogol. Collwyd rhywfaint o'r gweithiau hyn yn niwloedd amser, ond mae'r rhai a oroesodd ymysg uchafbwyntiau cerddoriaeth Ewropeaidd. Mae'n werth nodi'r 195 cantata, y ddau ddioddefaint (yn ôl Saint Mathew a Saint Ioan), a'r Offeren yn B lleiaf.
Ganwyd Johann Sebastian Bach yn Eisenach, prifddinas dugiaeth Saxe-Eisenach, (bellach yn rhan o'r Almaen), ar 21 Mawrth 1685 o dan yr hen drefn dyddiadau (31 Mawrth 1685 yn y drefn bresennol). Roedd yn fab i Johann Ambrosius Bach, cyfarwyddwr cerddorion y dref, a Maria Elisabeth Lämmerhirt. Ef oedd wythfed plentyn ar ieuengaf o blant Johann Ambrosius, a oedd yn ôl pob tebyg wedi dysgu theori ffidil a cherddoriaeth sylfaenol iddo. Roedd ei ewythrod i gyd yn gerddorion proffesiynol, yr oedd eu swyddi'n cynnwys organyddion eglwys, cerddorion siambr llys, a chyfansoddwyr. Cyflwynodd un ewythr, Johann Christoph Bach (1645-1693), ef i’r organ, ac roedd cyfyrder hŷn, Johann Ludwig Bach (1677-1731), yn gyfansoddwr a feiolinydd adnabyddus. Mae gwahanol ffynonellau’n yn nodi rhwng 50-80 o gerddorion fel rhan o deulu Bach.
Bu farw mam Bach ym 1694, a bu farw ei dad wyth mis yn ddiweddarach. Wedi marwolaeth ei rieni magwyd Bach gan ei frawd hynaf, Johann Christoph Bach (1671–1721), yr organydd yn Eglwys Sant Mihangel yn Ohrdruf, Saxe-Gotha-Altenburg.
Cynigiwyd ysgoloriaeth gorawl i Bach yn Ysgol fawreddog Sant Mihangel Lüneburg ym 1699.
Ym mis Ionawr 1703, yn fuan ar ôl graddio o Ysgol Sant Mihangel benodwyd Bach yn gerddor llys yng nghapel y Dug Johann Ernst III yn Weimar. Ar ôl ychydig fisoedd yn Weimar fe'i penodwyd yn organydd yn y Neue Kirche (eglwys newydd) yn Arnstadt lle arhosodd hyd 1707.Yna gwasanaethodd am gyfnod byr yn St. Blasius ym Mühlhausen fel organydd, gan ddechrau ym mis Mehefin 1707. Ei swydd nesaf oedd gwasanaethu llys Dug Sachsen-Weimar o 1708, fel organydd llys ac aelod o'r gerddorfa, gan ddod yn arweinydd yn y pen draw ym 1714. Ysgrifennodd lawer o gyfansoddiadaui'r organ yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys ei Orgel-Büchlein. Oherwydd anghydfod gwleidyddol rhwng y Dug a'i swyddogion, gadawodd Bach Weimar gan gymryd swydd Kapellmeister Cöthen ym mis Rhagfyr 1717. Daeth Bach yn Gantor Ysgol Thomas yn Leipzig ym mis Mai 1723 a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth.
Bu Bach yn briod ddwywaith.
Ei wraig gyntaf oedd ei gyfyrder Maria Barbara (née Bach). Priodasant ym 1706 a chawsant saith o blant:
1. Catharina Dorothea Bach (1708 – 1774)
2. Wilhelm Friedemann Bach (1710 - 1784)
3 & 4. Johann Christoph Bach a Maria Sophia Bach (efeilliaid geni a marw 1713)
5. Carl Philipp Emanuel Bach (1714 - 1788)
6. Johann Gottfried Bernhard Bach (1715 - 1739)
7. Leopold Augustus Bach (1718 - 1719)
Bu farw Maria Barbara ym 1720. Ar 3 Rhagfyr 1721 priododd ei ail wraig Anna Magdalena Wilcken. Roedd Anna Magdalena ei hun yn soprano ddawnus ac yn ferch i drwmpedwr llys y Tywysog Saxe-Weissenfels. Mae rhai arbenigwyr wedi awgrymu mae Anna Magdalena oedd wir gyfansoddwraig rhai o'r darnau amlwg sydd wedi eu priodoli i'w gŵr.
Bu iddynt 13 o blant:
1. Christina Sophia Henrietta (1723 - 1726)
2. Gottfried Heinrich Bach (1724 - 1763)
3. Christian Gottlieb Bach (1725 - 1728)
4. Elisabeth Juliana Friederica (1726 - 1781)
5. Ernestus Andreas Bach (geni a marw 1727)
6. Regina Johanna Bach (1728 - 1733)
7. Christiana Benedicta Louise (geni a marw 1730)
8. Christiana Dorothea Bach (1731 - 1732)
9. Johann Christoph Friedrich Bach (1732 - 1795)
10. Johann August Abraham Bach (geni a marw 1733)
11. Johann Christian Bach (1735 - 1782)
12. Johanna Carolina Bach (1737 - 1781)
13. Regina Susanna Bach (1742 - 1809)
Roedd Bach wedi bod yn dioddef o glwyf y siwgr am flynyddoedd, effeithiodd y clwyf ar ei olwg ac roedd yn ddechrau mynd yn ddall. Cafodd lawdriniaeth ar ei lygaid, ym mis Mawrth 1750 ac eto ym mis Ebrill, gan y llawfeddyg llygaid Seisnig John Taylor, dyn sy'n cael ei ystyried bellach yn grachfeddyg a chredir iddo ddallu cannoedd o bobl. Bu farw Bach ar 28 Gorffennaf 1750 o gymhlethdodau oherwydd y driniaeth aflwyddiannus. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys Thomaskirche, Leipzig, Stadtkreis Leipzig, Sachsen, Yr Almaen.
Veit Bach (d. 1619) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Johannes Bach I (1580–1626) | Philippus Bach (1590–1620) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Heinrich Bach (1615–1692) | Christoph Bach (1613–1661) | Wendel Bach (1619–1682) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Johann Christoph Bach (1642–1703) | Johann Michael Bach (1648–1694) | Johann Ambrosius Bach (1645–1695) | Maria Elisabeth Lämmerhirt (1644–1694) | Johann Christoph Bach (1645–1693) | Nodyn:Ill (1655–1718) | Anna Martha Schneider | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Johann Nicolaus Bach (1669–1753) | Maria Barbara Bach (1684–1720) | Johann Sebastian Bach (1685–1750) | Anna Magdalena Wilcke (1701–1760) | Johann Ludwig Bach (1677–1731) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Wilhelm Friedemann Bach (1710–1784) | Johanna Maria Dannemann | Carl Philipp Emanuel Bach (1714–1788) | Gottfried Heinrich Bach (1724–1763) | Johann Christoph Friedrich Bach (1732–1795) | Lucia Elisabeth Münchhausen (1728–1803) | Johann Christian Bach (1735–1782) | Elisabeth Juliane Friederica (1726–1781) | Johann Christoph Altnickol (1720–1759) | Johanna Carolina (1737–1781) | Regina Susanna (1742–1809) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Johann Sebastian Bach (arlunydd) (1748–1778) | Wilhelm Ernst Colson | Anna Philippiana Friederica Bach (1755–1804) | Wilhelm Friedrich Ernst Bach (1759–1845) | Charlotte Philippina Elerdt (1780–1801) | Christina Luise Bach (d. 1852) | Johann Sebastian Altnickol (1749–1749) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ludwig Albrecht Hermann Ritter | Carolina Augusta Wilhelmine Bach (1800–1871) | Juliane Friederica (b. 1800) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Johann Sebastian Bach, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.