Arddull arbennig mewn pensaernïaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau a fu'n boblogaidd rhwng diwedd yr 17g a chanol y 18g, yn enwedig yng ngwledydd Catholig Ewrop, yw Baróc (benthyciad o'r gair Saesneg Baroque sydd yn ei dro yn fenthyciad o'r gair Ffrangeg baroque o'r gair Sbaeneg barrueco).
Mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio unrhyw arddull anghyffredin yn y celfyddydau. Gellid ystyried yr arddull Baróc fel adwaith yn erbyn Clasuriaeth y Dadeni. Dechreuodd yn yr Eidal.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad diwylliannol, symudiad celf, arddull, cyfnod o hanes |
---|---|
Dechreuwyd | 16 g |
Daeth i ben | 1750s |
Rhagflaenwyd gan | Darddulliaeth, y Dadeni Dysg |
Lleoliad | Ewrop, Rwsia, Y Byd Newydd |
Yn cynnwys | Baroque literature, celf Faróc, High Baroque, Late Baroque, Early Baroque |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i nodweddir mewn pensaernïaeth ac arlunio gan ddefnydd llinellau ystwyth neu doredig, arddurnwaith blodeuog a goreuraidd (a arweiniodd at yr arddull Rococo) ac effeithiau gofodol dramatig. Ymhlith yr artistiaid baroc pwysicaf gellid crybwyll Bernini, Borromini, Caravaggio a Rubens.
Mewn cerddoriaeth gelwir cyfansoddiadau gan gyfansoddwyr fel Johann Sebastian Bach a Monteverdi yn gerddoriaeth faróc. Dyma'r cyfnod a welodd ddatblygiad yr opera, yr oratorio, y trio sonata a'r concerto grosso (gweler Arcangelo Corelli, er enghraifft).
Mewn llenyddiaeth mae Baróc yn derm llai pendant a diffiniedig. Gellid ystyried nofelau picaresg y cyfnod yn enghraifft. Roedd yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth y cyfnod yn ogystal, yn enwedig yn Ffrainc, yr Eidal, de'r Almaen a Sbaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baróc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.