Enw a roddwyd ar diroedd hemisffer y gorllewin, hynny yw cyfandir yr Amerig, yn Oes y Darganfod yw'r Byd Newydd.
Mae'n cyferbynnu'r tiroedd a ddarganfuwyd gan Ewropeaid yn y 15g a'r 16g â'r Hen Fyd, sef Ewrop, Asia, ac Affrica (neu Affrica-Ewrasia). Defnyddir yr enw hefyd yn ddiweddarach i grybwyll ynysoedd y Cefnfor Tawel a chyfandir Awstralia, a ddarganfuwyd gan fforwyr Ewrop o'r 16g i'r 18g. Daeth yr enw yn boblogaidd o ganlyniad i'r pamffled Mundus Novus, a briodolir i'r Eidalwr Amerigo Vespucci, yr un a roddai ei enw i'r Amerig.
Cychwynnodd Oes Aur Fforio yn y 15g pryd teithiodd morwyr o Bortiwgal ar hyd arfordir gorllewinol Affrica ac i ynysoedd dwyrain yr Iwerydd. Sefydlwyd môr-lwybrau masnach o Ewrop i Asia, ac ymdrechai ambell fforiwr i ganfod llwybrau gorllewinol i gyrraedd yr India a Tsieina drwy hwylio i ochr draw'r Iwerydd. Priodolir darganfyddiad yr Amerig yn draddodiadol i Christopher Columbus, a laniodd yn y Caribî yn gyntaf yn 1492, er i'r Llychlynwyr sefydlu gwladfeydd yn yr Ynys Las a Newfoundland rhyw 500 mlynedd cyn hynny. Yn y canrifoedd wedi mordeithiau Columbus, sefydlwyd trefedigaethau Ewropeaidd ar draws yr Amerig, a gafodd effeithiau dinistriol ar y bobloedd frodorol.
Defnyddir y termau Byd Newydd ac Hen Fyd o hyd i ddisgrifio anifeiliaid, planhigion, a gwinoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Byd Newydd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.