Cyhoeddiad byr neu lyfryn, yn enwedig un sy'n trafod pwnc dadleuol, yw pamffled.
Yn hanesyddol bu'r pamffled yn gyfrifol am ledaenu syniadau crefyddol a gwleidyddol ar draws Ewrop a Gogledd America. Cychwynnodd yr oes bamffledu yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, ac yn y 16g roedd yn gysylltiedig â llenyddiaeth ffraethebion a dihirod a straeon am y pla yn ogystal â thraethodau crefyddol a gwleidyddol. Ymhlith pamffledwyr enwog y cyfnod yn Lloegr oedd Thomas Nashe, Thomas Dekker, Robert Greene a Martin Marprelate. Cyhoeddwyd miloedd o bamffledi yng Ngwledydd Prydain yn yr 17g, a rhai ohonynt o ansawdd lenyddol ragorol megis gweithiau John Milton. Cyhoeddwyd nifer ohonynt yn ddi-enw. Yn sgil yr Adferiad, adfywiogwyd cylchrediad pamffledi o natur enllibus (neu "hortlyfrau"), bradwrus, ac anllad. Parhaodd y traddodiad trwy'r 18g gan lenorion megis Daniel Defoe a Jonathan Swift, er i dwf cylchgronau a chyfnodolion wythnosol leihau'r galw am bamffledi.
Ar ochr draw'r Iwerydd, cafodd y pamffled ddylanwad sylweddol ar y Chwyldro Americanaidd. Cyhoeddodd Thomas Paine Common Sense ychydig o fisoedd cyn Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ac ar ôl sefydlu'r wlad newydd lledaenodd syniadau ar sut i lunio'r cyfansoddiad trwy'r pamffled, a'r enghraifft amlycaf yw The Federalist Papers gan Alexander Hamilton, John Jay a James Madison. Yn Ffrainc defnyddiodd Voltaire, Rousseau, Montesquieu a Diderot bamffledi i gyhoeddi syniadau'r Oleuedigaeth trwy ddisgwrs a dadl resymedig. Wedi'r Chwyldro Ffrengig, daeth y pamffled unwaith eto yn erfyn y polemegydd. Cafodd y ffurf ei diwygio ym Mhrydain yn y 19g gan Fudiad Rhydychen ac yn hwyrach Cymdeithas y Ffabiaid.
Ers dechrau'r 20g, defnyddir y pamffled i ledaenu gwybodaeth yn hytrach na syniadau, yn bennaf gan lywodraethau a sefydliadau addysgol. Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Mae pamffled yn gyhoeddiad argraffedig nad yw'n gyfnodolyn sydd o leiaf 5 ond nid yn fwy na 48 o dudalennau, heb gyfrif tudalennau'r clawr, ac wedi ei gyhoeddi mewn gwlad benodol ac ar gael i'r cyhoedd."
Benthycair o'r gair Saesneg pamphlet yw "pamffled" neu "pamfflet". Mae ffurfiau Cymraeg o'r gair yn dyddio'n ôl i'r 1660au. Daw'r gair Saesneg o deitl cerdd serch Ffrengig yn yr iaith Ladin o'r 12g: Pamphilus, seu de Amore, neu yn Saesneg Pamphilet.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pamffled, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.