Jean-Jacques Rousseau: Llenor ac athronydd

Athronydd ac awdur yn yr iaith Ffrangeg oedd Jean-Jacques Rousseau (28 Mehefin 1712 - 2 Gorffennaf 1778).

Jean-Jacques Rousseau
Jean-Jacques Rousseau: Bywgraffiad, Gwaith Rousseau, Cyfeiriadau
Ganwyd28 Mehefin 1712 Edit this on Wikidata
Genefa Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1778 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Ermenonville Edit this on Wikidata
Man preswylTorino, Swydd Stafford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genefa, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, botanegydd, cyfansoddwr, coreograffydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, llenor, nofelydd, hunangofiannydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, addysgwr, naturiaethydd, dramodydd, gwyddoniadurwr, gohebydd, gwyddonydd gwleidyddol, awdur ysgrifau, beirniad cerdd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEmile, The Social Contract, Julie, ou la Nouvelle Héloïse, Confessions Edit this on Wikidata
Mudiadsocial contract, cerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata
TadIsaac Rousseau Edit this on Wikidata
PriodThérèse Levasseur Edit this on Wikidata
PartnerFrançoise-Louise de Warens Edit this on Wikidata
llofnod
Jean-Jacques Rousseau: Bywgraffiad, Gwaith Rousseau, Cyfeiriadau

Bywgraffiad

Cafodd ei eni yn Geneva i rieni Ffrengig. Daeth yn ffrind i Denis Diderot ac ymunodd â'r Gwyddoniadwyr. Credai fod natur y bod dynol yn berffaith ynddi ei hun ond ei bod wedi'i llygru gan gymdeithas amherffaith; amlygir hyn yn bennaf yn ei nofel ar addysg, Émile (1762). Cafodd syniadau gwleidyddol Rousseau ddylanwad sylweddol ar ei gyfoeswyr yn Ffrainc a gweddill Ewrop ac, yn ddiweddarach, ar arweinwyr a damcaniaethwyr y Chwyldro Ffrengig (er na chredai J.-J. ei hun mewn chwyldro). Fel llenor cafodd ei arddull cain a syniadaeth Ramantaidd ddylanwad ar lenorion fel Goethe, Shelley, Byron a Wordsworth. Ceir ei ysgrifeniadau mwyaf personol yn Les Confessions a Rêveries du promeneur solitaire, a gyhoedwyd ar ôl ei farwolaeth. Mewn cyferbyniad â Voltaire ac eraill o'r Rhesymegwyr, roedd Rousseau yn Gristion rhyddfrydol a gredai fod Natur yn allwedd i ddeall y Duwdod. Mae haneswyr yn cytuno i waith Rousseau achosi chwyldro mewn agweddau tuag at y naturiol a'r cyntefig drwy Ewrop; efallai mai ei nofel Julie ou la Nouvelle Héloïse a fu'n bennaf gyfrifol am hyn. Ym 1766, ac yntau wedi cilio i Lundain yng nghwmni'r athrnoydd o'r Alban David Hume, roedd Rousseau yn awyddus i ymgartrefu yng Nghymru. Cynigodd yr Aedol Seneddol Chase Price lety iddo yng Nghymru, ond fe'i perswadiwyd gan David Hume i fynd i Swydd Stafford yn lle. Trafodir hyn mewn erthygl gan Heather Williams, 'Cymru trwy lygaid Rousseau (ac eraill)', Y Traethodydd Hydref 2013.

Gwaith Rousseau

Yr argraffiad safonol o holl waith Rousseau yn Ffrangeg yw'r Œuvres complètes, 5 cyfrol, Paris, Gallimard, Bibliothèque de la Pléiade (1959-95).

  • Projet concernant de nouveaux signes pour la musique (1742)
  • Dissertation sur la musique moderne (1743)
  • Discours sur les sciences et les arts (1750)
  • Cyfrannodd Rousseau i'r Encyclopédie a olygwyd gan Diderot a d'Alembert. Cyfrannodd y rhan fwyaf o'r erthyglau ar gerddoriaeth ond ei gyfraniad pwysicaf oedd Économie politique ('Economeg wleidyddol', 1755, a adnabyddir heddiw dan y teitl Discours sur l'économie politique.
  • Le Devin du village (1752). Opera.
  • Narcisse ou l’amant de lui-même Archifwyd 2007-02-14 yn y Peiriant Wayback. (1752). Drama.
Jean-Jacques Rousseau: Bywgraffiad, Gwaith Rousseau, Cyfeiriadau 
Wynebddalen Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes gan Jean-Jacques Rousseau (1755)
  • Discours sur l'origine et les fondements de l'inégalité parmi les hommes (1755)
  • Examen de deux principes avancés par M. Rameau (rhwng 1754 a 1756 yn ôl pob tebyg)
  • Lettre à d'Alembert sur les spectacles (1757)
  • Jugement du Projet de paix perpétuelle de Monsieur l'Abbé de Saint-Pierre (1756)
  • Lettres morales (1757-1758)
  • Julie ou la Nouvelle Héloïse (1761)
  • Du contrat social (1762)
  • Émile ou De l'éducation (1762)
  • Essai sur l'origine des langues (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
  • Projet de constitution pour la Corse (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, ysgrifennwyd yn 1765 efallai)
  • Dictionnaire de musique (1755 ymlaen; cyhoeddwyd 1767)
  • Les Confessions (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
  • Dialogues de Rousseau juge de Jean-Jacques (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)
  • Rêveries du promeneur solitaire (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Jean-Jacques Rousseau BywgraffiadJean-Jacques Rousseau Gwaith RousseauJean-Jacques Rousseau CyfeiriadauJean-Jacques Rousseau Dolenni allanolJean-Jacques Rousseau171217782 Gorffennaf28 MehefinAthronyddFfrangeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

HafanHuluTomatoKrishna Prasad BhattaraiLe Porte Del SilenzioDwyrain SussexWicipediaBrenhinllin ShangYr ArianninKatell Keineg178Sex TapeKentuckyRhys MwynYsgol alwedigaetholTwrciCalsugnoUpsilonMississippi (talaith)Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)PiodenWcráinGirolamo SavonarolaIsraelThe DepartedParamount Pictures2012Jimmy WalesCalifforniaYr wyddor LadinGwyddoniadurYsgyfaintDulcineaCIACerrynt trydanolEiry ThomasPortiwgalegEva StrautmannVaniAdar Mân y MynyddCilgwriHamletO. J. SimpsonRhestr dyddiau'r flwyddynWoody GuthrieUsenet1724Java (iaith rhaglennu)14 GorffennafFfilm gyffro9 HydrefMeuganBleidd-ddynEmyr DanielAil Frwydr YpresVerona, PennsylvaniaRhyfel yr ieithoeddUTCCyfathrach Rywiol FronnolBlogY Mynydd Grug (ffilm)Ysgol Dyffryn AmanAfon CleddauPisoChwyddiantYsgol Gyfun Gymunedol PenweddigAbdullah II, brenin IorddonenRhestr blodau🡆 More