Y dymuniad i'r Iddewon gael tiriogaeth a gwladwriaeth iddynt ei hunain yw Seioniaeth.
Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn Awst 1897 yn y Gyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf yn Basel yn y Swistir. Ymfudodd ychydig o Rwsiaid Iddewig i Balesteina a phrynwyd tir oddi ar yr Arabiaid gyda chymorth ariannol o America.
Cynhowyd rhan o weledigaeth wleidyddol Seioniaeth gan Theodor Herzl yn ei pamffled ddylanwadol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"), 1896 a'i nofel, Altneuland a gyfieithwyd i'r Hebraeg fel Tel Aviv ("Bryn y Gwanwyn").
Gweithredwyd nifer o egwyddorion Seioniaeth gan fudiadau fel Chofefei Tzion a sefydlodd aneddleoedd ym Mhalesteina ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g.
Bu i ddilynwyr Seioniaeth sefydlu treflannau yn ystod cyfnod Ymerodraeth Otomanaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf gan greu yr hyn a alwyd yn Yishuv, sef y gymuned Iddewig, Hebraeg ei hiaith ar y diriogaeth a'r egin wladwriaeth Israeli.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Seioniaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.