Castell Powys: Castell yn y Trallwng, Powys

Saif Castell Powys neu weithiau Castell Coch, sy'n gastell canoloesol, ger tref y Trallwng, ym Mhowys.

Mae'n dyddio'n ôl i tua 1266 pan newidiodd Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn (hefyd Owen de la Pole; (c. 1257 – c. 1293)), yr olaf o Dywysogion Powys ei deyrngarwch i frenin Lloegr.

Castell Powys
Castell Powys: Rhai or prif atyniadau, Oriel, Gweler hefyd
Castell Powys o'r de, gyda'i gerddi enwog.
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstâd Castell Powys Edit this on Wikidata
LleoliadY Trallwng Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr139.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.65°N 3.1606°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'n gastell i Iarll Powys a bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff y gerddi Baróc eu cydnabod fel rhai o'r enghreifftiau gorau yng ngwledydd Prydain o fath Baróc. Maent yn cynnwys gerddi ffurfiol, parc ceirw, llawer o goed afal a thwnel o goed grawnwin.

Castell Powys: Rhai or prif atyniadau, Oriel, Gweler hefyd
Castell Powys o'r cefn, tua 1778

Dywedir i'r Dywysoges Victoria ymweld â Chastell Powys gyda'i mam ym 1832.

Rhai o'r prif atyniadau

Amgueddfa Syr Clive

Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys llawer iawn o arteffactau diddorol o India. Casglodd Edward Clive (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i "Herbert") yn y 18g, lawer o luniau enwog, dodrefn drudfawr o Ffrainc a Lloegr a llawer iawn o ddodrefn a cherfluniau o'r Eidal. Mae'r casgliad hwn hefyd yn cynnwys tecstiliau, arfau, arteffactau efydd, darnau arian a sguthrod eliffantod. Agorwyd y rhan hon o'r castell yn 1987.

Castell Powys: Rhai or prif atyniadau, Oriel, Gweler hefyd 
Y gerddi

Y gath Rufeinig

Yn y prif goridor, ceir cerflun dwy fil o flynyddoedd oed o gath a neidr. Mae'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf neu'r ail O.C. Mae cerfluniau Rhufeinig o gathod yn hynod brin. Credir mai dyma'r unig esiampl o'i fath drwy'r byd, sydd wedi goroesi. Ceir dau gerflun arall o gathod: y naill o Pompeii a'r llall yn Amgueddfa'r Fatican, ond mae'r ddau yma'n wahanol gan eu bont yn darlunio cath yn ymosod ar dderyn.

Credir i Clive brynu'r darn marmor hwn yn anrheg i'w wraig pan ymwelodd â'r Eidal yn 1774. Mwyngloddiwyd y darn marmor o Ynys Thasos a cheir ynddo lawer o grisialau mawr, a oedd yn gwneud y gwaith o'i greu'n llawer anoddach.

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Castell Powys Rhai or prif atyniadauCastell Powys OrielCastell Powys Gweler hefydCastell Powys CyfeiriadauCastell PowysCanoloesolCastellOwain ap Gruffudd ap GwenwynwynPowysPowys WenwynwynY Trallwng

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tomwellt1584Disturbia2024The New York TimesBIBSYSLouvreRhestr ysgolion uwchradd yng NghymruGlas y dorlanWilliam Jones (mathemategydd)SilwairU-571Chwarel y RhosyddParamount PicturesSafle Treftadaeth y BydThe End Is NearY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruAnableddStuart SchellerBacteriaWho's The BossHTMLTalwrn y BeirddYws GwyneddDafydd HywelCefin RobertsAfter EarthRiley ReidSbaenegPort TalbotWuthering HeightsCymdeithas Bêl-droed CymruIKEAIncwm sylfaenol cyffredinolAwdurdodRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainNia Ben AurTlotyEfnysienThe Next Three DaysPsilocybinDiddymu'r mynachlogyddGetxoY rhyngrwydPussy RiotFformiwla 17TsunamiLa Femme De L'hôtelGeorge Brydges Rodney, Barwn 1af RodneyGwyddor Seinegol RyngwladolFaust (Goethe)Anna Gabriel i SabatéKathleen Mary Ferrier194527 TachweddLionel MessiRhyw rhefrolLlandudnoBatri lithiwm-ionSiot dwad wynebRhyfel y Crimea🡆 More