Sefydliad cadwraethol, elusennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol, a elwir fel arfer Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Nid yw'r Ymddiriedolaeth yn gweithredu yn yr Alban, ble ceir sefydliad annibynnol, sef Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.
Enghraifft o'r canlynol | national trust, sefydliad di-elw, casgliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 12 Ionawr 1895 |
Yn cynnwys | Heritage Open Days |
Aelod o'r canlynol | Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
Gweithwyr | 7,463, 7,002, 6,548, 7,578, 8,015 |
Isgwmni/au | Coughton Court, Cliveden, Shugborough Hall, Wray Castle, Hill Top Farm |
Pencadlys | Swindon |
Gwefan | https://www.nationaltrust.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar 12 Ionawr 1895 gan Octavia Hill (1838–1912), Syr Robert Hunter (1844–1913) a Hardwicke Rawnsley (1851–1920).
Yn ôl ei wefan:
"Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio i gadw a gwarchod yr arfordir, cefn gwlad ac adeiladau o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy ofalu ymarferol a chadwraeth, trwy addysgu a hysbysu, a thrwy annog miliynau o bobl i fwynhau eu treftadaeth genedlaethol.""
Mae'r ymddiriedolaeth yn berchen ar lawer o fannau gan gynnwys tai a gerddi hanesyddol, henebion diwydiannol a safleoedd cymdeithasol, hanesyddol. Mae'n un o dirfeddianwyr mwyaf gwledydd Prydain, ac mae'n berchen ar nifer fawr o ardaloedd hardd sydd ar agor i'r cyhoedd am ddim. Hwn yw'r sefydliad sydd â'r aelodaeth fwyaf hefyd, ac mae'n un o'r elusennau mwyaf yng ngwledydd Prydain o ran incwm ac asedau.
Yn 2009 nid oedd gan yr ymddiriedolaeth yr un cynrychiolydd o Gymru ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.