Llywodraeth Vichy oedd llywodraeth y rhan ddeheuol o Ffrainc yn y cyfnod 1940-1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn Brwydr Ffrainc.
Galwai'r wladwriaeth ei hun yn État français ("Gwladwriaeth Ffrainc"), dan reolaeth y marsial Philippe Pétain, a defnyddiai ddinas Vichy yn Allier fel prifddinas. Yn ymarferol, roedd dan reolaeth yr Almaen Natsïaidd.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg, regime, Gwladwriaeth byped |
---|---|
Daeth i ben | 29 Awst 1944 |
Label brodorol | État français |
Dechrau/Sefydlu | 10 Gorffennaf 1940 |
Rhagflaenydd | y Drydedd Weriniaeth Ffrengig |
Olynydd | Provisional Government of the French Republic |
Enw brodorol | État français |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Pétain wedi olynu Paul Reynaud fel arweinydd Ffrainc ar 16 Gorffennaf 1940. Ar 22 Mehefin, ildiodd byddinoedd Ffrainc i'r Almaen yn Compiègne. Dan y cytundeb, roedd yr Almaen i feddiannu gogledd a gorllewin Ffrainc, tra roedd y gweddill o Ffrainc a'i threfedigaethau i fod dan lywodraeth hanner-annibynnol. Cytunodd Pétain, oedd yn 84 oed, i weithredu fel pennaeth y wladwriaeth yma. Penododd Pierre Laval a François Darlan fel dirprwyon iddo.
Wedi i'r Cyngheiriad lanio yn y gogledd-orllewin yn 1944, symudodd yr Almaenwyr Lywodraeth Vichy i Belfort ac yn nes ymlaen i Sigmaringen yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth y Cyngheiriaid, dienyddiwyd nifer o aelodau o'r llywodraeth, yn eu plith Laval, am deyrnfradwriaeth, tra dedfrydwyd Pétain i garchar am oes.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llywodraeth Vichy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.