Yn dilyn cwymp Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ardal ogleddol a gorllewinol Ffrainc ei feddiannu gan yr Almaen Natsïaidd o fis Mai 1940 hyd Ragfyr 1944.
Cafodd y llywodraeth Almaenig yn y diriogaeth a feddiannwyd ei galw'n y Weinyddiaeth Filwrol yn Ffrainc (Almaeneg: Militärverwaltung in Frankreich), a elwir y rhanbarth yn y zone occupée. Bu rhanbarth bach a feddiannwyd gan yr Eidal yn y de ddwyrain, a rhanbarth na chafodd ei feddiannu, y zone libre, yn y de. Cafodd rhanbarthau Alsace a Lorraine eu hymgorffori'n rhan o'r Almaen. Gweinyddodd ôl-wladwriaeth Llywodraeth Vichy y tri rhanbarth hyn yn ôl termau'r cadoediad. Yn Nhachwedd 1942, meddiannodd lluoedd yr Axis y zone libre yn ogystal, a bu Ffrainc fetropolitanaidd dan feddiannaeth yr Axis nes glanio'r Cynghreiriaid ym 1944.
Enghraifft o'r canlynol | Llywodraeth Filwrol, cyfnod o hanes |
---|---|
Math | tiriogaeth dan feddiant |
Label brodorol | Militärverwaltung in Frankreich |
Dechreuwyd | 22 Mehefin 1940 |
Daeth i ben | Awst 1944, 4 Hydref 1943 |
Enw brodorol | Militärverwaltung in Frankreich |
Gwladwriaeth | yr Almaen Natsïaidd, Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod y feddiannaeth adeiladwyd gwersylloedd crynhoi yn Ffrainc a bu arwahanu yn erbyn Iddewon, er enghraifft bu raid iddynt wisgo seren felen. Cafodd niferoedd mawr o Iddewon Ffrengig eu danfon i wersylloedd difa'r Natsïaidd yng Ngwlad Pwyl. Bu nifer o Ffrancod yn cydweithio â'r Natsïaidd yn ystod y feddiannaeth, a nifer eraill yn eu gwrthwynebu trwy'r résistance. Mae etifeddiaeth yr agweddau hon o'r rhyfel yn bwnc dadleuol yn Ffrainc hyd heddiw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.