Moryd neu aber agored Afon Forth ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Moryd Forth (Gaeleg yr Alban, Linne Foirthe; Sgoteg Firth o Forth, Saesneg Firth of Forth; Cymraeg Canol, Moryd Gweryd ac 'Aber Gweryd'; Lladin Bodotria).
Saif Fife ar yr ochr ogleddol a Gorllewin Lothian, dinas Caeredin a Dwyrain Lothian ar yr ochr ddeheuol. Mae'r llanw yn cyrraedd cyn belled a Stirling, ond fel rheol ystyrir fod y firth yn gorffen gwer Pont Kincardine. Yn ddaearegol, ffiord yw Moryd Gweryd, gan iddi gael ei naddu gan rewlif.
Math | moryd, aber, ffiord |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 56.1667°N 2.75°W |
Ceir nifer o drefi ar hyd lannau'r foryd, gyda diwydiannau pwysig, yn cynnwys Grangemouth, Leith, Methil, Inverkeithing, Prestonpans a Rosyth. Croesir y foryd gan bont i'r rheilffordd a phont enwof i'r briffordd, a disgwylir i bont ychwanegol agor yn 2008. Ceir nifer o ynysoedd yn y foryd; yr enwocaf yw Bass Rock.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Moryd Forth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.