Llong deithio gefnforol yn perthyn i gwmni'r White Star Line oedd yr RMS Titanic.
Suddodd y llong 11 mis ar ôl iddi gael ei lansio; roedd ar ei thaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. Dechreuodd y fordaith o borthladd Southampton i Efrog Newydd ar 10 Ebrill 1912. Dywedir mai enghraifft o 'falchder dynol yn arwain at drychineb' oedd y trasiedi yma.
Enghraifft o'r canlynol | four funnel liner, llongddrylliad |
---|---|
Daeth i ben | 15 Ebrill 1912 |
Màs | 52,310 tunnell |
Label brodorol | Titanic |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Dechreuwyd | 31 Mawrth 1909 |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
Perchennog | White Star Line, International Mercantile Marine Company |
Gwneuthurwr | Harland and Wolff |
Enw brodorol | Titanic |
Hyd | 269.1 metr |
Tunelledd gros | 46,329 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Titanic oedd llong fwyaf y byd ar yr adeg y cafodd ei adeiladu. Hi oedd yr ail llong o'r ddosbarth Olympic allan o dri a adeiladwyd gan Harland ac Wolff yn Belffast ar gyfer y White Star Line.
Teithiodd y llong o Southampton i Cherbourg, Ffrainc, ac yna i Queenstown, yn Iwerddon, cyn cychwyn ar ei daith i America.
Am 11:40pm ar 14 Ebrill 1912 tarodd y Titanic fynydd o rew tua 400 o filltiroedd o Newfoundland. Ar ôl 2 awr a 40 munud, suddodd y llong am 2.20am ar 15 Ebrill. Collodd tua 1,514 o bobl eu bywydau. Achubwyd 705 o bobl yn unig gan nad oedd digon o fadau achub ar gyfer pawb ar fwrdd y Titanic, a nid oedd nifer o'r badau achub yn cael eu llenwi yn llwyr cyn gadael y llong. Roedd gan rai ohonynt 28 o bobl yn unig, allan o 65 lle posib.
Capten y llong oedd Edward J. Smith, a hon oedd ei fordaith olaf cyn ymddeol. Fe fu farw’r person olaf i deithio ar y Titanic, Millvina Dean, yn 98 oed yn 2009. Dim ond deufis oed oedd hi pan suddodd y llong ar y daith yn 1912.
Cafodd y Titanic ei darganfod ar wely'r môr ar 1 Medi 1985 gan dîm o nofwyr tanfor Americanaidd, o dan arweinyddiaeth Robert Ballard. ar ôl archwiliad manwl gan chwiliedyddion robotig Americanaidd a Ffrengig. Mae nifer o alldeithiau wedi ymweld ag olion y llong. Daeth y darganfyddiad yn ystod cyrch gwahanol, lle'r oedd tim Ballard wedi derbyn cais gan yr Llynges Americanaidd i chwilio am ddwy long tanfor niwclear oedd wedi mynd ar goll, yr U.S.S. Thresher ac yr U.S.S. Scorpion.
Mae nifer o ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu am y trychineb hwn, gan gynnwys A Night To Remember (1958), Raise The Titanic! (1980) a Titanic (1997), yn serennu Kate Winslet a Leonardo DiCaprio.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article RMS Titanic, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.